Fe wnaeth mwy na 30,000 o bobol yng Nghymru ofyn am gyngor ariannol dros gyfnod y Nadolig, yn ôl ystadegau newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod 35% o oedolion Cymru wedi methu fforddio i gynhesu eu tai i “lefel gyfforddus” yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Roedd hynny’n cymharu â 24% yn yr Alban a 23% yn Lloegr.

Daw hyn wrth i Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru annog pobol i wirio a ydyn nhw’n gymwys i gael cymorth gan Lywodraeth Cymru os ydyn nhw’n wynebu anawsterau ariannol.

Cafodd 200,000 o bobol gymorth gan Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru yn 2022-23, a chafodd £23m ei ddyrannu mewn grantiau.

Nod y gronfa yw helpu pobol mewn caledi ariannol “eithafol”, a phobol a allai fod wedi colli’u swyddi ac sy’n aros am y taliad credyd cynhwysol cyntaf.

Dyled a chostau ynni

Dywed Luke Young, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor ar Bopeth Cymru, y gallan nhw helpu pobol i gadarnhau pa fudd-daliadau a thaliadau maen nhw’n gymwys ar eu cyfer.

“Mae llawer o bobol yn poeni am ddyled a chostau ynni cynyddol,” meddai.

“Gall ein cynghorwyr eich cyfeirio at gynlluniau lleol a chenedlaethol a allai wneud gwahaniaeth mawr y gaeaf hwn.

“Os ydych chi’n profi caledi ariannol fel colli eich swydd neu aros am eich taliad budd-dal cyntaf neu os nad oes gennych arian i brynu bwyd, nwy a thrydan, efallai y bydd y Gronfa Cymorth Dewisol yn gallu eich helpu nawr.

“Hefyd, mae mwy o bobl nag erioed â hawl i Gynllun Cymorth Tanwydd gwerth £200 Cymru, sef arian gan Lywodraeth Cymru ar ben taliadau costau byw Llywodraeth y Deyrnas Unedig – gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n colli allan.”

‘Cymorth brys’

Yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, cafodd cyllid ychwanegol o £18.8m ei gyhoeddi ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn helpu pobol yn ystod yr argyfwng costau byw.

“Mae’r argyfwng costau byw hwn, sy’n cael ei ysgogi gan gostau ynni, tanwydd a bwyd sy’n cynyddu’n gyflym, yn ddigynsail,” meddai Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.

“Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn un o nifer o ffyrdd yr ydym yn cefnogi pobol ledled Cymru drwy raglenni a chynlluniau sy’n rhoi arian yn ôl yn eu pocedi.

“Mae’r ffigurau hyn yn dangos y bu’n ffynhonnell hanfodol o gymorth brys i lawer, ac maent yn ei gwneud hi’n glir pam na fyddwn yn gwneud toriadau i’r gyllideb.

“Byddwn yn parhau i gynnig help i’r rhai hynny sydd mewn angen a byddwn unwaith eto yn annog y rhai sy’n cael trafferthion i wirio a allant gael taliadau neu fudd-daliadau a allai roi rhywfaint o gysur yn ystod y cyfnod heriol hwn.”