Mae’r Athro Wendy Larner wedi’i phenodi’n Llywydd ac Is-Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd, a bydd yn dechrau yn ei rôl ar Fedi 1.

Hi yw Profost Prifysgol Wellington Victoria yn Seland Newydd ar hyn o bryd.

Cyn symud i Wellington, bu’n Ddeon y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Gyfraith ac yn Athro Daearyddiaeth Ddynol am ddeng mlynedd ym Mhrifysgol Bryste.

Mae wedi bod mewn swyddi academaidd ym Mhrifysgol Waikato a Phrifysgol Auckland, ac roedd hefyd yn Gymrawd Fulbright ym Mhrifysgol Wisconsin-Madison.

Hi fydd y fenyw gyntaf i fod yn Is-Ganghellor y Brifysgol yn hanes 140 mlynedd y sefydliad.

‘Prifysgol ragorol, yn llawn addewid ac uchelgais’

“Rwy’n hynod falch o gael fy mhenodi’n Is-Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd,” meddai’r Athro Wendy Larner, yn dilyn ei phenodiad.

“Mae’n brifysgol ragorol, yn llawn addewid ac uchelgais, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda staff, myfyrwyr a phartneriaid allanol i ddatgloi ei photensial ymhellach.

“Mae gennym y cyfle i fod yn brifysgol o bwys sy’n weithgar ar lwyfannau lleol a byd-eang, gan greu dyfodol gwell i Gymru a’r byd.”

‘Chwilio ar draws y byd’

“Dros fisoedd lawer, rydym wedi chwilio ar draws y byd am Is-Ganghellor newydd,” meddai Pat Younge, cadeirydd Cyngor Prifysgol Caerdydd.

“Gwnaethom wahodd yr holl staff a myfyrwyr i ddweud wrthym beth oeddent am ei weld gan ein harweinydd delfrydol, ac fe gymeron nhw ran flaenllaw yn y broses recriwtio.

“Mae’r Athro Larner yn academydd uchel iawn ei pharch ac yn arweinydd talentog, ac edrychaf ymlaen at ei chroesawu i Gaerdydd ym mis Medi.”

Bydd yr Athro Wendy Larner yn olynu’r Athro Colin Riordan yn Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd.

“Roeddwn yn falch iawn o glywed bod Wendy wedi’i phenodi, ac rwy’n gwbl hyderus y bydd yn adeiladu ar sylfeini cadarn Caerdydd,” meddai, wrth ymateb i’r newyddion.

“Rwyf wedi dysgu dros y degawd diwethaf bod cryfder Caerdydd yn seiliedig ar amrywiaeth cefndiroedd, profiadau a syniadau ei chymuned.

“Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser arwain y Brifysgol fywiog hon, a dymunaf bob llwyddiant i Wendy wrth iddi barhau i lywio ei dyfodol.”