Dair blynedd ers i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, mae llefarydd materion rhyngwladol Plaid Cymru yn galw o’r newydd am ailymuno â’r farchnad sengl.

Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, wedi tynnu sylw at y ffaith fod 730 o swyddi’n cael eu colli ym Môn, yr etholaeth drws nesaf, o ganlyniad i Brexit.

Daw hyn ar ôl i Grŵp 2 Sisters gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf fod Brexit wedi cyfrannu at eu penderfyniad i gau eu ffatri yn Llangefni.

Mae Hywel Williams wedi tynnu sylw hefyd at ddata OBR sy’n dangos bod masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd i lawr 15%, ac mae disgwyl i gynhyrchiant fod i lawr 4%.

Cyfeiriodd hefyd at ddata Ymddiriedolaeth Nuffield sy’n dangos bod mwy na 4,000 o feddygon Ewropeaidd wedi dewis peidio â gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dilyn pleidlais Brexit yn 2016.

Yn dilyn cyhoeddi pôl piniwn gan Focaldata ddoe (dydd Llun, Ionawr 30), mae hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith fod mwy o bobol ym mhob etholaeth yng Nghymru yn cytuno â’r datganiad fod ‘Prydain yn anghywir i adael yr Undeb Ewropeaidd’ nag sy’n anghytuno.

Gan ailadrodd safbwynt ei blaid, dywed nad oes “dim amheuaeth bod ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau o fudd i’n heconomi yng Nghymru”, ac mae wedi beirniadu’r Ceidwadwyr a Llafur am beidio â chydnabod fod Brexit yn “ein gwneud yn dlotach”.

‘Niwed di-ben-draw’

“Tair blynedd yn ddiweddarach ers gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’r niwed economaidd y tu hwnt i amheuaeth,” meddai Hywel Williams.

“Ni fydd yr un o bleidiau San Steffan yn dweud y gwir – mae Brexit yn achosi niwed di-ben-draw i’n heconomi.

“Trodd addewidion a wnaed yn 2016 allan i fod yn wyllt optimistaidd ar y gorau, celwyddau plaen ar y gwaethaf. Ac mae pobl yn fwyfwy ymwybodol o’r difrod hwnnw.

“Mae arolwg barn newydd yn dangos bod mwy o bobl ym mhob etholaeth Gymreig yn cytuno â’r datganiad bod Prydain yn anghywir i adael yr Undeb Ewropeaidd nag sy’n anghytuno.

“Hynny yw, mae pobol bellach yn credu bod Brexit wedi bod yn gamgymeriad.

“Pwy all eu beio nhw? Mae masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd i lawr 15%, cynhyrchiant i lawr 4% ac mae mwy na 4,000 o feddygon Ewropeaidd wedi gadael y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ers Brexit.

“Mae rhifau fel hyn weithiau’n teimlo’n haniaethol.

“Ond rydyn ni’n gweld yr effaith o lygad y ffynnon yng ngogledd Cymru – gyda ffatri 2 Sisters yn Ynys Môn yn priodoli’n uniongyrchol i 730 o swyddi gael eu colli i broblemau a achoswyd gan Brexit.

“Nid yw optimistiaeth yn newid ffeithiau economaidd.

“Cymharwch â gogledd Iwerddon – sy’n parhau yn y farchnad sengl ar gyfer nwyddau diolch i’r protocol.

“Mae ei heconomi yn llawer mwy llewyrchus na Phrydain y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae’n bryd i’r Ceidwadwyr a Llafur gydnabod bod bod y tu allan i floc masnach mwyaf y byd yn ein gwneud ni’n dlotach.

“Mae angen safbwynt economaidd a masnach bragmatig o blaid Ewrop yn awr yn fwy nag erioed – ac mae arolygon barn yn awgrymu bod y cyhoedd yn cytuno.

“Mae Plaid Cymru yn credu mewn gwleidyddiaeth onest – dyna pam rydyn ni’n dweud yn glir nad oes unrhyw amheuaeth bod ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau o fudd i’n heconomi yng Nghymru – ac ar draws Prydain.”

‘Dim un addewid wedi’i wireddu’

“Dair blynedd ers i Brexit ddod i rym a bron i saith mlynedd ers y bleidlais wreiddiol, does yna’r un o’r addewidion gafodd eu gwneud gan yr ymgyrch Gadael wedi’i wireddu,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Yn hytrach, mae busnesau Cymreig yn ei chael hi’n anodd ac yn boddi mewn tâp coch cynyddol a chostau uwch, ac economi’r Deyrnas Unedig sy’n perfformio waethaf o blith economïau mawr y byd, gyda chyfraddau twf is na Rwsia sydd dan sancsiynau.

“Mae’n amlwg fod angen trefniant masnachu a rheoleidido agosach efo’r Undeb Ewropeaidd, a bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n parhau i ymgyrchu i ailymuno â’r Farchnad Sengl er mwyn helpu i roi’r hwb sydd ei angen ar ein heconomi.

“Fedrwn ni ddim fforddio i’r wlad fynd yn sownd mewn ideoleg ar draul synnwyr cyffredin economaidd.”