Fe fydd cyfres o sesiynau ar-lein ar gyfer pobol sy’n awyddus i fentro i’r byd newyddiaduraeth yn dechrau heno (nos Fawrth, Ionawr 31).

O ffasiwn a materion byd eang i chwaraeon, bydd rhai o newyddiadurwyr mwyaf blaengar Cymru o wahanol feysydd yn rhannu eu profiadau o weithio tramor mewn cyfres o sesiynau ar-lein ar gyfer dysgwyr a myfyrwyr.

Yn y gyfres hon, byddwn yn clywed gan y newyddiadurwr chwaraeon Illtud Dafydd, sy’n gweithio gyda’r asiantaeth newyddion rhyngwladol, Agence France-Presse ym Mharis; Andy Bell, sy’n gynhyrchydd a gohebydd teledu yn Awstralia ers 35 mlynedd; a Megan Davies, sydd wedi gweithio fel newyddiadurwr ffasiwn ym Mharis cyn dychwelyd i Gymru i weithio i BBC Cymru.

Bydd y tri newyddiadurwr profiadol yn cael eu cyfweld gan Annell Dyfri, a Llion Marc Carbis, llysgenhadon ôl-radd y Coleg Cymraeg sy’n astudio newyddiaduraeth yn y brifysgol.

Illtud Dafydd – Ionawr 31, 5 o’r gloch

Daw’r sesiwn gyntaf gyda Illtud Dafydd ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Dwi wedi bod yn gweithio i’r asiantaeth newyddion ryngwladol, Agence France-Presse, ers 2018 bellach, ac wrth fy modd â’r wlad, yr iaith, a’r swydd,” meddai.

“Dwi’n arbenigo mewn rygbi ac yn gohebu ar y tîm cenedlaethol, Les Bleus, i gynulleidfa ar draws y byd.

“Wrth i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd nesáu, bydd yr wythnosau a’r misoedd nesa yn sicr o fod yn gyffrous a phrysur iawn!”

Cyn symud i Baris, roedd yn gweithio i amryw gwmnïau cynhyrchu teledu yng Nghymru, gan gynnwys BBC Sport Wales.

Ond mae’n ddiolchgar yn bennaf am ei addysg uwch ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle astudiodd e Ffrangeg a Gwleidyddiaeth, ac i’r cwrs Newyddiaduraeth Darlledu ym Mhrifysgol Caerdydd am roi sylfaen cadarn a sgiliau eang iddo.

“Pe na bawn i wedi astudio newyddiaduraeth fel myfyriwr ôl-radd drwy gyfrwng y Gymraeg, dwi ddim yn credu y byddwn i yn y sefyllfa ydw i heddiw,” meddai.

“Cefais gyfleoedd arbennig yn y brifysgol yng Nghymru, ac roedd gen i fwy o ddewis a chyfleoedd swyddi hefyd ar ôl graddio.

“Dwi wrth fy modd ag ieithoedd a chwaraeon felly mae’r swydd yma yn ddelfrydol i mi.”

Megan Davies – Chwefror 15, 5.30yh

Bydd yr ail sesiwn yn cael ei chynnal gan Megan Davies.

Yn wreiddiol o Abertawe, astudiodd Megan Ffrangeg a Llenyddiaeth Saesneg yn Nghaerwysg cyn symud ymlaen i wneud cwrs M.A Newyddiaduraeth Darlledu ym Mhrifysgol Caerdydd, lle enillodd hi Ysgoloriaeth T. Glynne Davies.

Gyda diddordeb mewn ffasiwn, fel rhan o’i chwrs gradd, symudodd i Paris i weithio i gwmni couture, Ralph & Russo, cyn symud ymlaen i weithio i gylchgrawn Vogue.

Erbyn hyn, mae hi’n gweithio fel newyddiadurwr aml-blatfform gyda BBC Cymru, ac wedi elwa yn fawr ar ei phrofiadau dramor.

“Roedd symud i wlad estron i weithio fel newyddiadurwr ifanc yn heriol ac mae’r profiad wedi rhoi sgiliau bywyd amhrisiadwy i mi, nid yn unig yn fy swydd fel newyddiadurwr ond yn gyffredinol hefyd,” meddai.

“Mae byw tramor yn rhoi mewnwelediad a dealltwriaeth ddyfnach i chi o ddiwylliant gwlad a’i phobol, a ges i brofiadau bythgofiadwy.

“Byddwn i’n annog un rhywun sydd am ddilyn gyrfa fel newyddiadurwr i dreulio cyfnod yn gweithio tramor.”

Andy Bell – Chwefror 23, 7 o’r gloch

Andy Bell fydd gwestai olaf y gyfres.

Fel newyddiadurwr, cynhyrchydd a gohebydd sydd wedi gweithio yn y byd darlledu yn Awstralia ers 1988, mae ganddo berlau o wybodaeth, cyngor a phrofiadau i’w rhannu gyda myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa neu astudio newyddiaduraeth.

“Mae’n fraint cael y cyfle i gyfrannu at weithgareddau’r Coleg Cymraeg,” meddai.

“Nid yn unig fel gohebydd profiadol a weithiodd yng Nghymru ac Awstralia, ond hefyd fel rhywun a ddysgodd y Gymraeg.

“Mae’n bleser ac yn gyfrifoldeb ar y genhedlaeth hyn i rannu ambell i brofiad gyda’r to ifanc.

“Mae ‘Newyddiaduriaeth o Bedwar Ban Byd’ y Coleg Cymraeg yn gyfle gwych i wneud hynny.”

Y Coleg Cymraeg a thair prifysgol yn cydweithio

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd yn ariannu’r prosiect, ac mae’r sesiynau wedi’u trefnu ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe.

“Mae’r Coleg yn falch o gefnogi’r prosiect hwn sy’n dangos nad oes ffiniau wrth astudio a dilyn gyrfa newyddiadurol drwy gyfrwng y Gymraeg. I’r gwrthwyneb, mae’n agor sawl drws i fyd amlieithog,” meddai Ffion Hughes, Rheolwr Academaidd Addysg Uwch y Coleg Cymraeg.

Mae modd cofrestru drwy fynd i Newyddiaduraeth o Bedwar Ban Byd.