Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd rali fawr ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yn cael ei chynnal ar y Maes yng Nghaernarfon ar ddydd Llun, Mai 8, sy’n ddiwrnod Gŵyl Banc ar benwythnos coroni Charles yn Frenin Lloegr.

Yn ôl Osian Jones o’r Gymdeithas, fe fydd yna “wrthgyferbyniad yn amlwg rhwng coroni a dathlu braint a chyfoeth yn Llundain” a rali yng Nghaernarfon fydd yn “rhoi sylw i argyfwng ein cymunedau, argyfwng sy’n gorfodi pobol leol allan am eu bod yn methu fforddio cartref i’w rentu neu brynu”.

“Rwy’n credu y daw cannoedd, os nad miloedd, i’r rali i fynnu fod Llywodraeth Cymru’n cyflwyno Deddf Eiddo er mwyn sicrhau fod ein tai’n cael eu trin fel asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi ac nid fel asedau masnachol i ymelwa arnynt,” meddai.

“Mae angen gweithredu dros bobl sy’n anobeithio â chael cartref, ac mae angen safiad dros ddyfodol ein cymunedau Cymraeg, cyn ei bod yn rhy hwyr.”

‘Pwysau’n dwyn ffrwyth’

“Rydym yn falch fod y pwysau’n dwyn ffrwyth a bod y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi cyhoeddi’r wythnos ddiwethaf nifer o gamau ymarferol pellach i liniaru’r sefyllfa,” meddai Jeff Smith ar ran Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.

“Mae cynigion newydd fel ymchwilio i alluogi awdurdodau lleol i ddarparu morgeisi i helpu pobol i fforddio cartref yn eu hardal leol a’r hyblygrwydd yng Nghynllun Prynu Cartref yn addawol ond mesurau i liniaru ar effeithiau problemau tai yn unig sydd.

“Dydy’r mesurau ddim yn ddigon uchelgeisiol.

“Mae gweithrediad y farchnad dai, sefyllfa fregus tenantiaid preifat a phrinder tai cymdeithasol yn broblem ledled Cymru.

“Yn lle atebion fydd yn lleihau’r broblem yn unig, galwn ar y Llywodraeth i ddal ar y cyfle i gyflwyno yn y tymor seneddol hwn Ddeddf Eiddo gyflawn i reoli’r farchnad, grymuso’n cymunedau a rhoi’r hawl i gartre yn lleol i’n pobol.”