Bydd cysylltiadau rhwng Llydaw a Chymru’n cael sylw mewn seminar arbennig i nodi Gŵyl Santes Ffraid.

Canu Cymru-Llydaw fydd dan sylw yn y seminar hybrid gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd nos Iau (Chwefror 2).

Daeth Nigel Ruddock ar draws hen gerdd mewn llawysgrif sydd bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol, sef Llyfr Gwyn Corsygedol, a chysylltiad rhyngddi â chân led-gyffredin o Lydaw, a dyna fydd sail y digwyddiad.

Mae’r llyfr yn cynnwys casgliad o gywyddau, awdlau a charolau yn llawysgrif William Bodwrda (1593-1660).

“Mae cerdd ugain llinell sy’n adrodd stori oedd yn gyfarwydd i fi, oherwydd fy mod i’n siarad Llydaweg a fy mod i’n gyfarwydd â chaneuon Llydaw ac yn adnabod stori’r peth fel stori sy’n cael ei hadrodd mewn carol Nadolig sy’n cael ei chanu yn lled-gyffredin yn Llydaw hyd heddiw,” meddai Nigel Ruddock, fydd yn cymryd rhan yn y noson ar y cyd â Brigitte Cloarec a Mary-Ann Constantine, wrth golwg360.

“Stori’r geni ydy hi, ond yn y stori’r geni yma mae merch sydd heb ddwylo, heb lygaid ac mae hi’n helpu’r Forwyn Fair wrth esgor ar yr Iesu ac mae gwyrth wedyn lle mae hi’n cael ei dwylo a’i llygaid.

“Yn ôl y traddodiad yn Llydaw, Sant Ffraid yw’r ferch yma. Mae nifer o enwau arni yn Llydaw, Berc’hed yw un ohonyn nhw.

“Does dim enw ar y peth yn y llawysgrif yn Llyfr Gwyn Corsygedol.

“Gall hynny fod yn ymwneud â sefyllfa Catholigiaeth yn yr ail-ganrif-ar-bymtheg a bod pethau Catholig yn eithaf peryglus a’u bod nhw wedi tynnu’r enw allan o’r peth.”

Gwreiddiau Paganaidd

Mae Santes Ffraid (Brigid), yn un o nawddsaint Iwerddon, ac mae gwreiddiau sawl un o’r hanesion sydd yn gysylltiedig â hi yn perthyn i Baganiaeth.

Caiff Diwrnod Santes Ffraid ei ddathlu ar Chwefror 1, ac am y tro cyntaf eleni bydd y diwrnod yn ŵyl yn Iwerddon.

“Mae cysylltiad Celtaidd hen iawn, achos yn y bôn mae pobol yn cydnabod fod Sant Ffraid yn ffigwr Paganaidd i bob pwrpas,” eglura Nigel Ruddock.

“Mae Llansantffraid ymhob cwr o Gymru, a pham hynny? Oherwydd bod gyda hi ryw swyddogaethau ynglŷn â ffrwythlondeb, ac mae’n bosib olrhain hynny’n ôl a dweud bod gwreiddiau Paganaidd ganddi.

“Dyna’n bosibl un rheswm bod y ferch yma heb ddwylo, heb lygaid – achos bod ryw wrthdaro rhwng yr elfen Baganaidd a’r safbwynt Cristnogol.”

Roedd y Dduwies Geltaidd hefyd yn dduwies ffrwythlondeb.

“Efallai ar un adeg bod menywod wrth esgor ar fabi yn gweddïo ar Sant Ffraid, ac mae cwestiwn a oedd hynny’n arfer Cristnogol neu Baganaidd?” meddai wedyn.

“Mae’r stori yma’n gallu rhoi ryw fath o gyfiawnhad – ‘Roedd y Forwyn Fair ei hunan wedi cael help Sant Ffraid wrth esgor ar yr Iesu, felly wrth gwrs bod y peth yn iawn’.

“Sut mae cymhathu’r elfennau hynach, efallai’n Baganaidd, mewn i Gristnogaeth gynnar?”

Cysylltiad y Tuduriaid

Eglurhad posib arall ar sut ddaeth stori’r geni a rhan Santes Ffraid ynddi yw drwy edrych ar gysylltiad y Tuduriaid, Llydaw a Chorsygedol.

“Roedd teulu plasty Corsygedol wedi dod yn ddylanwadol oherwydd eu bod nhw’n gysylltiedig â dod â’r Tuduriaid i rym, ac roedd Harri VII wedi treulio 11 mlynedd yn Llydaw cyn dod draw i ymladd yn Bosworth. Fyddai hynny jyst cyn y flwyddyn 1485,” meddai Nigel Ruddock.

“Felly, os nad yw’r peth yma â gwreiddiau hen, hen, hen yng Nghymru, mae yna ryw bosibilrwydd bod y peth wedi teithio draw pan oedd y rhwydwaith yma’n bodoli rhwng Cymru a Llydaw, a’r trefniadau cryf i ddod â Harri VII draw a dod â’r Tuduriaid i rym.

“Mae hynny’n agwedd arall o’r stori fyddai neb yn gallu’i brofi, ond eto mae’n eithaf diddorol.”

‘Stori dal yn gyffredin’

Mae’r stori’n dal i fod yn gyffredin yn Llydaw, ac mae hi i’w chael ar hyd gorllewin Ffrainc hefyd, “sydd ychydig o syndod”, yn ôl Nigel Ruddock.

“Mae yna fersiwn sydd ar gael hyd yn oed yn iaith yr Ocsitaneg, iaith y ffin rhwng Ffrainc a Sbaen,” meddai.

Fel rhan o’r seminar, bydd Brigitte Cloarec yn canu nifer o’r fersiynau Llydaweg o’r stori, ac mae Nigel Ruddock yn bwriadu perfformio’r darn sydd yn Llyfr Gwyn Corsygedol.

“Mae yna gerdd arall sydd yn y repertoire yn gyffredin rhwng Cymru a Llydaw, a hynny yn Gymraeg yn Llyfr Du Caerfyrddin,” meddai wedyn.

“Yno, mae [darn arall] sy’n ymwneud â chrefydd ac efallai ryw wrthdaro rhwng Cristnogaeth a Phaganiaeth a hynny mewn hen gerdd yn Llyfr Du Caerfyrddin.

“Ond eto, mae’n rhywbeth sy’n cael ei ganu yn nhraddodiad Llydaw, ac mae sawl fersiwn o’r peth dal yno hyd heddiw.”

  • Bydd y seminar, ‘Canu Cymru-Llydaw ar ŵyl Santes Brîd: Gwerz Berc’hed a Merch y Gof’, yn cael ei gynnal yn Ystafell y Cyngor yn y Ganolfan Geltaidd yn Aberystwyth am 5yh nos Iau (Chwefror 2), a dros Zoom. Mae gofyn e-bostio a.elias@cymru.ac.uk i dderbyn y ddolen.