Bydd grantiau gwerth hyd at £25,000 ar gael i bobol adnewyddu tai gwag i’w gwneud yn ddiogel i fyw ynddyn nhw a gwella eu heffeithlonrwydd ynni.

Mae Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, wedi cyhoeddi cynllun gwerth £50m heddiw (dydd Llun, Ionawr 30) allai olygu bod hyd at 2,000 o eiddo gwag yn cael eu defnyddio eto.

Bydd y cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol yn para dros y ddwy flynedd nesaf, ac mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cytuno, wedi cytuno mewn egwyddor, neu yn ei ystyried, oni bai am gynghorau Torfaen, Caerdydd, Casnewydd a Merthyr Tudful.

Gall unrhyw un wneud cais am y grant os yw’r eiddo wedi bod yn wasg ers deuddeg mis a bod yr ymgeiswyr yn berchen arno neu yn y broses o’i brynu.

Rhaid i’r ymgeiswyr fyw yno am o leiaf bum mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith.

‘Cynyddu’r cyflenwad tai’

Dywed Julie James ei bod hi’n falch o gyhoeddi’r dyraniad ariannol.

“Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod dros 22,000 o eiddo gwag hirdymor yng Nghymru,” meddai.

“Mae’r rhain yn adnodd tai sydd wedi’i wastraffu all ddod yn bla yn ein cymunedau.

“Bydd y cyllid sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn cael ei ddefnyddio i leihau nifer yr eiddo gwag ac, felly, cynyddu’r cyflenwad tai.”

Ar wahân i berchen-feddianwyr, bydd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, awdurdodau lleol a grwpiau tai cymunedol hefyd yn gallu cael gafael ar y cyllid ar gyfer eiddo gwag sydd ganddyn nhw i’w hadfer fel tai fforddiadwy.

Bydd gan bob awdurdod lleol sy’n cymryd rhan ddyraniad bob blwyddyn, a nhw fydd yn gyfrifol am gynnal arolygon o’r eiddo er mwyn nodi ac argymell y gwaith sy’n gymwys ar gyfer y grant.