Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu pwy fydd yn gallu cael brechlyn Covid-19 eleni, gan ddweud na fydd pawb yn cael cynnig brechlyn.
Er bod nifer fawr o bobol wedi cael brechlyn erbyn hyn, maen nhw’n dweud bod pobol hŷn, trigolion cartrefi preswyl a phobol sydd â rhai cyflyrau iechyd yn fwy agored i effeithiau gwaetha’r feirws.
Maen nhw’n dweud bod amheuon o hyd am ba hyd mae brechlynnau’n effeithiol ac am ymlediad y feirws hefyd.
Mae’n bosib y gallai brechlyn gael ei gynnig yn y gwanwyn i bobol sy’n wynebu’r perygl mwyaf, tra gall fod angen cyflwyno brechlyn ychwanegol pe bai fersiwn wahanol iawn o’r feirws i Omicron yn dod i’r amlwg.
Fydd pobol 16 i 49 oed ddim yn derbyn gwahoddiad awtomatig i gael trydydd dôs o’r brechlyn, ac nid pawb fydd yn derbyn gwahoddiad am ddôs cyntaf chwaith.
Dywed y Llywodraeth y byddan nhw’n cyhoeddi rhagor o wybodaeth maes o law am ddyddiadau cau’r rhaglenni sydd wedi bod ar y gweill ers dechrau’r feirws.