Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 46 oed yn Llansawel ger Castell-nedd wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Cafwyd hyd i gorff Kevin Barry Mahoney mewn lôn ger clwb cymdeithasol yn y dref am 9.45 fore Mercher.
Mae’r ymchwiliad yn parhau, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.