Dylai’r Blaid Lafur “ganolbwyntio ar wrthwynebu’r Llywodraeth Dorïaidd” yn hytrach na ffraeo ymysg ei gilydd, yn ôl y Farwnes Eluned Morgan.

Daw ei sylwadau yn dilyn y ffrae a arweiniodd at ymddiswyddiad Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty o feinciau blaen y blaid yr wythnos diwethaf.

Ymddiswyddodd Doughty yn fyw ar raglen Daily Politics y BBC mewn ymateb i’r ffordd y cafodd llefarydd Ewrop y Blaid Lafur, Pat McFadden ei ddiswyddo gan arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn.

Collodd McFadden ei swydd yn dilyn honiadau ei fod wedi bod yn “anffyddlon” i Corbyn.

Wrth ymateb i’r ad-drefnu, dywedodd y Farwnes Morgan wrth raglen Daily Politics Wales y BBC: “Doedd e ddim yn daclus. Rwy wedi gweld gwell ad-drefnu o’r blaen.

“Ond yn amlwg, mae gan Jeremy fandad anferth gan aelodau’r blaid a’i benderfyniad e yw pwy sydd yn ei gabinet a phwy yw ei weinidogion cysgodol.

“Mae gan bobol lawer o barch i Jeremy Corbyn. Mae pobol yn poeni braidd am y bobol o’i amgylch e ac rwy’n credu mai dyna lle’r aeth pethau braidd yn flêr.”

‘Calliwch’

Galwodd y Farwnes Morgan ar y ddwy ochr i “gallio ychydig a chanolbwyntio ar wrthwynebu’r Torïaid, nid ein gilydd yn fewnol”.

Mae’r ffrae yn bygwth hollti’r Blaid Lafur yn San Steffan ar drothwy etholiadau’r Cynulliad yng Nghymru, ond mae’r Farwnes Morgan yn rhybuddio na ddylai’r naill darfu ar y llall.

“Dylid canolbwyntio go iawn ar wrthwynebu’r Llywodraeth Dorïaidd. Dyna ddylai ein hunig ffocws fod.”

Dywedodd mai’r flaenoriaeth ar hyn o bryd yw adfer yr ardaloedd lle bu llifogydd dros y Nadolig, a brwydro i gynnal credydau treth.

“ Fe gawson ni lifogydd anferth dros y Nadolig, rydyn ni wedi gweld y Torïaid yn ceisio torri credydau treth, a dydyn ni ddim wir wedi eu gweld nhw’n condemnio pobol am ladd yn Saudi Arabia.

“Mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n siarad ar ran y cyhoedd sy’n anghysurus ynghylch y cyfeiriad y mae’r Torïaid yn mynd â ni iddo fe ar hyn o bryd.”