Daeth cadarnhad mai corff Jordan Miers a gafodd ei ddarganfod ym Marina Abertawe ddydd Gwener.
Roedd y dyn 21 oed, un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Bryn Tawe, wedi bod ar goll ers Rhagfyr 19, pan gafodd ei weld ar lwybr ger afon Tawe.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r Marina fore Gwener wedi i gorff gael ei ddarganfod.
Mae lle i gredu ei fod e’n anelu am ei gartref ym Monymaen pan aeth ar goll.