Mae Cyngor Tref Penarth wedi dechrau cyhoeddi pob agenda a llythyr mewnol yn ddwyieithog yn dilyn pwysau gan Gymdeithas yr Iaith.
Roedd y Cyngor wedi bod yn gweithredu’n uniaith Saesneg oherwydd nad oedd yr un o’u cynghorwyr yn medru’r Gymraeg.
Bellach, mae’r Cyngor yn cyhoeddi pob agenda a llythyr yn ddwyieithog.
Ond mae Adroddiadau’r Cyngor yn parhau’n uniaith Saesneg, a does dim sicrwydd eto a fydd y Cyngor yn cyhoeddi eu cofnodion Cyngor llawn a chyfarfodydd pwyllgor yn ddwyieithog.
Mae polisi Iaith Gymraeg y Cyngor yn nodi: “Nid yw’r un o’r staff sydd mewn cyswllt â’r cyhoedd yn ddwyieithog.”
Ychwanega’r polisi fod dwyieithrwydd yn ‘ddymunol’ ac nid yn ‘hanfodol’.
Fe fu Cymdeithas yr Iaith yn rhoi pwysau ar y Cyngor i newid eu polisi ers i un o’u cynghorwyr Llafur, Gwyn Roberts ddatgan yn 2014 fod “Penarth yn dref Saesneg ei hiaith yn draddodiadol” ac nad oedd “angen datblygu’r iaith Gymraeg” yn y dref.
Erbyn hyn, mae’r polisi’n nodi bod gan unigolion yr hawl i gyfathrebu â’r Cyngor yn Gymraeg neu Saesneg, ac y dylid annog y defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.