Mae’r gwasanaethau brys yn ceisio diffodd tân mewn garej yn Llanbradach ger Caerffili.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De eu galw i’r garej aml-lawr 10 metr x 12 metr am 1.10 brynhawn Sul.
Roedd tri cherbyd a theiars y tu mewn i’r garej, ond ni chafodd unrhyw un ei anafu.