Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i fandaliaid wneud graffiti ar swyddfa Aelod Seneddol Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Cafodd y geiriau ‘Tories Out’ eu hysgrifennu’n anghywir ar ffenest swyddfa Simon Hart yn Hendy-gwyn yn Sir Gaerfyrddin rywbryd dros nos ar nos Iau, Ionawr 5 neu fore Gwener, Ionawr 6.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y graffiti ar yr adeilad ar Stryd St John gysylltu â Heddlu Dyfed Powys, meddai’r llu.

Wrth ymateb i’r graffiti ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Simon Hart nad ef sy’n berchen ar yr adeilad, a bod y fandaliaeth yn “llawn gymaint o anghyfleustra i’r perchennog a’r defnyddwyr eraill”.

“Dydy’r staff sy’n gweithio yno ddim yn cael eu cyflogi gan y Blaid Geidwadol, gweithwyr achos sy’n cael eu hariannu gan drethdalwyr ydyn nhw,” meddai.

“Does dim rhaid i Banksy boeni gormod am y gystadleuaeth.”

‘Ymosodiad gwarthus’

Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig alw’r digwyddiad yn “ymosodiad gwarthus” ar swyddfa ei gydweithiwr.

“Os ydych chi’n troi at y math hwn o ymddygiad, rydych chi’n colli’r ddadl,” meddai Andrew RT Davies.

“Ddylai Simon ddim gorfod dioddef hyn. Ac yn sicr ddylai ei dîm ddim gorfod ei ddioddef.”