Mae grant y Nadolig o hyd at £50 yn cael ei roi gan Cyfle i bobol ifanc i’w helpu efo costau byw.

Os yw pobol rhwng 16 a 25 oed yn poeni am wres, tanwydd neu fwyd dros y Nadolig, yna mae cyfle iddyn nhw allu cael y grant i’w helpu.

Mae Cyfle yn gweithio efo pobol i sicrhau eu bod yn hawlio’r hyn sydd ar gael iddyn nhw yn yr hinsawdd sydd ohoni efo’r argyfwng costau byw.

Yn ôl Cyfle, mae pobol ond yn gofyn am yr hyn sydd ar gael i’w helpu nhw i fyw.

“Mae costau egni a chostau byw wedi codi i’r fath raddau nes bod pobol yn cael trafferthion enfawr, hyd yn oed efo help gan y Llywodraeth,” meddai Jane Watkinson, Rheolwr Gwasanaeth Cyfle, wrth golwg360.

“Rydym yn gweithio efo teuluoedd i sicrhau eu bod nhw’n cael pob hawl.

“Oherwydd bod pethau wedi codi o ran prisiau, mae pawb yn stryglo.

“Rwy’ wedi bod yn mynd trwy geisiadau bore ’ma, ac mae pawb yn gofyn am drydan, nwy a bwyd.

“Does neb yn gofyn am ddim byd arall.

“Roedd dagrau yn fy llygaid yn darllen rhai straeon.”

Cymorth gan ASDA

Daeth gwasanaeth cefnogi Cyfle ynghyd ag archfarchnad ASDA i gynnig y grant dewisol cymunedol.

Mae ASDA wedi bod yn cefnogi Cyfle ers tro, ac maen nhw wedi cael grantiau eraill ganddyn nhw hefyd, yn ôl Jane Watkinson.

“Cafwyd grant tebyg y Nadolig diwethaf,” meddai.

“Roeddem yn hynod ddiolchgar am hwnna.

“Eleni mae o hyd yn oed yn fwy pwysig, yn enwedig efo’r pwysau ariannol ar deuluoedd oherwydd yr argyfwng costau byw.

“Cawsom grant yn yr haf hefyd – roedd hwnna i gadw cymunedau efo’i gilydd.

“Roeddem yn cynllunio dod â phobol efo anghenion arbennig at ei gilydd.

“Roedd yn ddathliad o fywyd ar ôl y cyfnod clo.

“Roedd pobol oedd wedi bod yn ynysig yn dod at ei gilydd.”

Cefnogaeth gan fusnes lleol

Yn hael iawn, mae busnes lleol sydd eisiau aros yn ddienw, wedi rhoi cyfraniad o £1,500.

Golyga hyn fod Cyfle yn gallu cyrraedd pobol sydd heb eu cyfeirio atyn nhw o’r blaen, neu sy’n gwneud ceisiadau efo Cyfle ar hyn o bryd.

“Mae hynny yn golygu gallwn helpu mwy o bobol, pobol sydd heb fod yn gweithio efo Cyfle,” meddai Jane Watkinson wedyn.

“Roeddem yn arfer dweud bod pobol oedd yn gwneud ceisiadau wedi gorfod cael eu cyfeirio at Cyfle o’r blaen, neu’n gweithio efo ni ar hyn o bryd.

“Efo’r arian ychwanegol, gallwn gyrraedd teuluoedd pellach.”

Ond beth yn union mae Cyfle yn ei wneud?

Mae’n fudiad sy’n cefnogi pobol ifanc, ac mae dwy ochr iddo.

Mae tai ym Mhorthmadog a Pwllheli lle maen nhw’n cynnig cefnogaeth i blant mewn gofal o 16 i 18 oed i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol, efo’r gobaith y gallan nhw symud ymlaen i fyw’n annibynnol yn 18 oed.

Bydd ganddyn nhw well gyfle o lwyddo yn eu tai eu hunain wedyn, am eu bod nhw wedi cael cefnogaeth.

Mae Cyfle yn delio â llawer o bobol o’r maes gofal, a phlant yng Ngwynedd sydd wedi bod mewn gofal preswyl ers blynyddoedd.

Dymuniad rhai o’r plant yw dod adre’n ôl at eu teuluoedd.

Mae Cyfle hefyd yn cefnogi pobol ddigartref sydd rhwng 18 a 25 oed.

Mae ganddyn nhw brosiect gofal arall, lle maen nhw’n cefnogi i fyny at ddeg unigolyn neu deulu ym mha bynnag agweddau ar eu bywydau lle mae angen cefnogaeth arnyn nhw.

Maen nhw’n llenwi ffurflenni, yn gweithio efo pobol sydd angen help i gysylltu efo mudiadau eraill o ran iechyd meddwl, yn gweithio efo pobol sydd angen help i chwilio am waith, ac yn glanhau tai neu’n gwneud unrhyw waith arall sydd ei angen ar bobol.

Maen nhw hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio, lle mae pobol yn gallu cael cymorth i lenwi ffurflenni, gwneud ceisiadau am grant, neu ddefnyddio cyfrifiadur i chwilio am waith.

Mae problemau pawb yn wahanol, felly mae popeth yn cael ei adeiladu o gwmpas yr unigolyn.

Gall unrhyw un sydd eisiau cefnogaeth alw heibio i 31A Stryd Penlan, Pwllheli.

Mae hefyd yn bosib cysylltu â Jane Watkinson drwy e-bost: cyflesupport@btconnect.com neu drwy ffonio 07587129356.