Gavin Williams
Fe fethodd penaethiaid yn y fyddin i adnabod nag atal cosbi answyddogol neu ‘fwystfileiddio’ rhag digwydd, yn ôl crwner achos milwr fu farw.

Dywedodd y Crwner Cynorthwyol Wiltshire a Swindon, Alan Large, bod y milwr Gavin Williams wedi marw o strôc gwres ar ôl cael ei gosbi ar un o ddyddiau poethaf y flwyddyn.

Cafodd tri swyddog eu canfod yn ddieuog o ddynladdiad yn 2008 ar ôl gorfodi Gavin Williams, oedd yn 22 ac o Hengoed ger Caerffili, i fartsio nôl ac ymlaen yn y gwres llethol.

Cyflwynodd y crwner gasgliad naratif ar ôl gwrando ar dystiolaeth dros 100 o dystion yn y llys.

‘Pum gradd rhy uchel’

Cafodd Gavin Williams ei gosbi gan y swyddogion am gamymddwyn yn dilyn sawl digwyddiad ble roedd wedi meddwi.

Ar ôl iddo ddisgyn yn ystod y ‘bwystfileiddio’ ar 3 Gorffennaf 2006 fe gludwyd o i’r ysbyty, ac fe sylweddolodd meddygon bod tymheredd ei gorff yn 41.7 gradd Celsius, bron i bum gradd yn uwch na’r lefel arferol.

Dangosodd profion pellach bod y cyffur ecstasi yng ngwaed y milwr pan fu farw.

‘Arfer cyffredin’

Fe gafodd yr arfer o ‘fwystfileiddio’ ei wahardd yn 2005. Ond fe ddywedodd un o gyd-filwyr Gavin Williams, Gareth Davies, wrth y crwner ei fod yn arfer cyffredin o hyd.

Mae achos Gavin Williams wedi codi cwestiynau eto am agweddau yn y fyddin, gan ddilyn yr ymgyrchu am gyfiawnder i’r Preifat Cheryl James o Langollen a fu farw ynghanol honiadau o fwlio.

“Bu farw Gavin ar ôl iddo orfod gwneud cosb gorfforol answyddogol oedd yn cynnwys martsio ac ymarfer corfforol ar ddiwrnod poeth tu hwnt,” meddai’r crwner.

“Roedd y gosb hon yn rhan o system o gosbau answyddogol o’r fath yn y bataliwn ble na lwyddodd y penaethiaid ei adnabod na’i atal.”