Bydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn torri cyllid ei Wasanaethau Dysgu Cymunedol i Oedolion, sy’n benderfyniad ‘trychinebus’ yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Mae penderfyniad Bwrdd Gweithredol y sir ddydd Llun yn golygu na fydd arian i gynnal a chadw canolfannau dysgu cymunedol Cennen yn Rhydaman, Glanaman na Felinfoel o ddiwedd mis Mawrth ymlaen.

Gwersi rhifyddeg, llythrennedd, llythrennedd cyfrifiadurol a Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd tramor fydd yn cael eu blaenoriaethu bellach.

Yn ôl canolfan dysgu Felinfoel, dydyn nhw heb glywed dim gan y cyngor am y toriadau, dim ond yr hyn sydd wedi bod yn y newyddion.

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

“Rydyn ni’n deall bod llai o arian yn cael ei roi i’r cyngor ar gyfer gwasanaethau addysg oedolion ond mae’r cyngor wedi bod wrthi’n edrych ar y gyllideb yn ddiweddar ac yn bwriadu cwtogi ar wasanaethau eraill hefyd,” meddai Sioned Elin, Cadeirydd rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith.

“Beth fydd yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – pwy fydd eisiau byw yma, a phwy fydd yn gallu byw yma?”

Dywedodd hefyd fod 85% o’r oedolion yn y sir sy’n dilyn cyrsiau yn ddi-waith ac mai’r “trigolion mwyaf difreintiedig fydd fwyaf ar eu colled.”

Pam blaenoriaethu gwersi Saesneg i dramorwyr?

Mae’r mudiad iaith hefyd yn codi’r cwestiwn pam bod gwersi Saesneg i siaradwyr ieithoedd tramor yn cael eu blaenoriaethu dros rai Cymraeg.

“Wrth gwrs fod y rhan fwyaf o drigolion Sir Gâr yn siarad Saesneg ond Cymraeg yw iaith nifer o gymunedau ac er mwyn cynnwys mewnfudwyr yn y gymuned dylid rhoi’r un flaenoriaeth i’r Gymraeg a’r Saesneg,” meddai Sioned Elin.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cydnabod y bydd torri ar wasanaethau, ond yn bwriadu penodi swyddog i dynnu sylw at yr holl gyrsiau i oedolion sydd ar gael yn y sir.