Mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru wedi mynnu fod yn rhai i Lywodraeth Prydain wrando ar Aelodau Cynulliad os ydyn nhw’n gwrthwynebu’r Bil Undebau Llafur.
Yn ôl Leighton Andrews, fe ddylai San Steffan addasu’r mesur os yw gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn anhapus â’r ffordd y bydd yn effeithio ar Gymru.
Eisoes mae’r Gweinidog wedi ysgrifennu at aelodau o Dŷ’r Arglwyddi cyn iddyn nhw roi ail ddarlleniad i’r Bil ddydd Llun.
Fe fyddai’r bil sydd wedi cael ei gyflwyno gan y llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn ei gwneud hi’n anoddach i weithwyr streicio.
‘Tanseilio gwasanaethau cyhoeddus’
Bydd y Cynulliad yn trafod effaith y bil ar wasanaethau cyhoeddus sydd wedi’i datganoli ar 26 Ionawr, ac fe fynnodd Leighton Andrews y gallai’r cynlluniau greu mwy o densiynau nag y byddai’n datrys.
“Rydyn ni wedi dweud sawl gwaith y gallai’r Bil Undebau Llafur greu niwed sylweddol i economi a chymdeithas y DU,” meddai’r gweinidog Llafur.
“Fe fydd yn creu rhaniadau cymdeithasol, arwain at berthynas mwy heriol rhwng cyflogwyr a gweithwyr, ac yn y diwedd yn tanseilio gwasanaethau cyhoeddus a’r economi yn hytrach na’i gryfhau.
“Rydyn ni wedi cyflwyno Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cynulliad yn ymwneud ag effaith rhai rhannau o’r Bil ar wasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli.
“Fe fyddwn ni’n gofyn i’r Cynulliad bleidleisio yn erbyn y cynnig pan fydd yn cael ei drafod ar 26 Ionawr.
“Os yw caniatâd yn cael ei wrthod, fe ddylai Llywodraeth y DU barchu dymuniadau’r Cynulliad ac addasu’r Bil mewn modd priodol.”