Y diweddar Simon Lewis
Mae dyn wedi ei gyhuddo o achosi dwy farwolaeth trwy yrru yn beryglus.

Hefyd mae Kyle Kennedy, 29, o Grangetown, Caerdydd hefyd wedi ei gyhuddo o gipio cerbyd heb ganiatâd, gyrru tra wedi’i wahardd a gyrru heb yswiriant.

Bydd yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Caerdydd y bore yma.

Bu farw Simon Lewis, 33, o Trowbridge, Caerdydd, ar Ragfyr 31 pan wnaeth ei Daihatsu Sirion wrthdaro gyda Peugeot 307 ar Lamby Way yn y brifddinas.

Hefyd yn y Daihatsu roedd gwraig feichiog Simon Lewis a’u merch dair oed, Summer.

Cafodd mab Simon ac Amanda Lewis ei eni yn fuan ac ar frys yn y dull Caeserean ar Ionawr 3. Bu farw yn yr ysbyty’r diwrnod hwnnw.

Mae’r heddlu yn apelio am dystion a welodd y gwrthdrawiad am tua 5.30 yr hwyr ar ddydd Iau, Rhagfyr 31, tua chwarter milltir i’r dwyrain o gylchfan Rover Way.

Gall unrhyw un welodd y digwyddiad neu’r modd yr oedd y Peugeot 307 yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, gysylltu â’r heddlu drwy ffonio 101 a dyfynnu 480293.