Hamid Ali Khan
Mae gyrrwr a oedd wedi taro bachgen 12 oed gan ei ladd wedi cyfaddef achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Yn Llys y Goron Casnewydd heddiw fe blediodd Calvin Markall, 26, yn euog o achosi marwolaeth Hamid Ali Khan drwy yrru’n beryglus.

Bu farw’r bachgen ar ôl bod mewn gwrthdrawiad a char Audi S3 gwyn yn Heol Parc Ninian, Glanyrafon, Caerdydd ar 27 Chwefror y llynedd.

Yn wreiddiol, roedd Markall wedi gwadu achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ond fe newidiodd ei ble cyn i’w achos ddechrau ddydd Llun.

Cafodd Markall, o Ffordd Menai, Rhymni, ei gadw yn y ddalfa a bydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Mercher.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd teulu Hamid Ali Khan ei fod yn “blentyn cariadus a oedd yn barchus tuag at ei deulu ac unrhyw un roedd yn cwrdd â nhw.”

Roedd yn gefnogwr brwd o glybiau pêl-droed yr Adar Gleision a Chelsea, meddai ei deulu.