Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw dyn 46 oed y cafwyd hyd i’w gorff y tu ôl i glwb gweithwyr yn Llansawel ddoe.

Cafwyd hyd i gorff Kevin Barry Mahoney, 46, yn Stryd Thomas am 9.45yb ddydd Mercher, 6 Ionawr.

Mae dyn 44, wedi’i arestio ar amheuaeth o’i lofruddio ac yn parhau i gael ei holi yn y ddalfa yn Abertawe.

Mae teulu Kevin Mahoney wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ddoe ond nid yw achosi ei farwolaeth wedi cael ei gadarnhau a bydd profion pellach yn cael eu cynnal.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley o Heddlu De Cymru bod eu hymchwiliadau’n parhau ac maen nhw’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am Kevin Mahoney i gysylltu â nhw.

“Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd Kevin Mahoney yn y dyddiau cyn ei farwolaeth ac sydd â gwybodaeth ynglŷn â lle mae e wedi bod, beth roedd yn ei wisgo a phwy roedd yn cymdeithasu gyda nhw.

“Fe allai’r wybodaeth yma fod yn hanfodol i’r ymchwiliad wrth i ni geisio darganfod yr amgylchiadau a arweiniodd at ddod  o hyd i’w gorff fore Mercher.”

Mae’r heddlu hefyd eisiau clywed gan unrhyw un a welodd neu glywodd unrhyw beth amheus yn neu o gwmpas ardal Stryd Thomas yn Llansawel ddydd Mawrth neu ddydd Mercher.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1600005773.