Simon Lewis
Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi dwy farwolaeth drwy yrru’n beryglus wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty ac mae bellach yn y ddalfa ym Mae Caerdydd.

Mae’r dyn 29 oed o Grangetown, Caerdydd hefyd wedi cael ei gyhuddo o fynd â cherbyd heb ganiatâd, gyrru tra roedd wedi’i wahardd a gyrru heb yswiriant.

Roedd wedi bod yn yr ysbyty gydag anafiadau nad oedd yn peryglu ei fywyd ers y gwrthdrawiad ar Nos Galan a laddodd Simon Lewis, 33, o Trowbridge, Caerdydd.

Bu car Daihatsu Sirion Simon Lewis mewn gwrthdrawiad â Peugeot 307 ar Ffordd Lamby, Caerdydd tua 5:30yh, ddydd Iau, 31 Rhagfyr, tua milltir i’r dwyrain o gylchfan Ffordd Rover.

Roedd gwraig feichiog Simon Lewis, Amanda a’u merch tair oed, Summer yn y car hefyd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Cafodd babi Amanda a Simon Lewis ei eni tri mis yn gynnar ar ôl llawdriniaeth frys ddydd Sul, 3 Ionawr ond fe fu farw’r bachgen bach yn yr ysbyty yng Nghaerdydd ar yr un diwrnod.

Mae Heddlu De Cymru wedi diolch i’r rhai sydd wedi rhoi gwybodaeth iddyn nhw ac maen nhw’n apelio am ragor o dystion.

Gelwir ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r ffordd yr oedd y Peugeot 307 glas yn gyrru cyn y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu drwy ffonio 101 a dyfynnu’r cyfeirnod, *480293.