Y Canghellor George Osborne yng Nghaerdydd heddiw
Mae’r Canghellor George Osborne wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth y DU yn buddsoddi  £50 miliwn dros y pum mlynedd nesaf i sefydlu canolfan arloesi yn ne Cymru.

Pwrpas y ganolfan fydd creu mathau newydd o ddargludyddion trydan.

Mae gweinidog yr economi a gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, Edwina Hart wedi croesawu’r cyhoeddiad am y ganolfan a fydd, meddai, “yn rhoi Cymru wrth galon y diwydiant dargludyddion trydan yn Ewrop.”

Fe fydd y ganolfan yn rhan o rwydwaith ymchwil a datblygiad Catapults.

Ychwanegodd Edwina Hart y bydd y ganolfan yn rhoi hwb economaidd i Gymru ac yn creu swyddi.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil dwy flynedd o drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru, Innovate UK, y sector busnes dargludyddion yn ne Cymru, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth y DU.

Cytundeb datblygiad economaidd 

Mae’r Canghellor wedi bod yn annerch arweinwyr busnes yng Nghaerdydd heddiw ac fe gyhoeddodd y bydd Llywodraeth y DU yn cefnogi cytundeb datblygiad economaidd yng Nghaerdydd gan ddweud y bydd yn “trawsnewid yr ardal” fel y gwnaeth datblygiad Bae Caerdydd yn y 90au.

Ychwanegodd George Osborne ei fod yn awyddus i arwyddo cytundeb cyn iddo gyhoeddi ei Gyllideb ym mis Mawrth.

‘Cyfuniad peryglus’

Ond roedd na neges mwy difrifol yn ei araith wrth iddo rybuddio am “gyfuniad o fygythiadau peryglus” i economi’r DU gan gyfeirio at y tensiynau yn y Dwyrain Canol, economi China’n arafu a phrisiau nwyddau, fel olew, yn gostwng.

Wrth gyfeirio at Lafur, fe awgrymodd y gallai’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn gymryd “cam yn ôl” os yw gwleidyddion yn dychwelyd at “yr hen arferion gwael o wario biliynau o bunnau ar wariant cyhoeddus.”

Dywedodd: “Mae unrhyw un sy’n meddwl bod y gwaith wedi’i gwblhau o ran economi Prydain yn gwneud camgymeriad dybryd.”