Mae’r Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn Glyn Davies, wedi annog ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu dwy fferm wynt arfaethedig yn y canolbarth i beidio digalonni yn dilyn ei gyfarfod gyda gweinidogion yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yr wythnos hon.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad gan yr Uchel Lys cyn y Nadolig i wyrdroi penderfyniad yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd i wrthod dau gais i godi ffermydd gwynt yng Ngharnedd Wen a Llanbrynmair.

Mae’r ymgyrchwyr bellach yn aros am benderfyniad terfynol am y ddau gais.

Cwmwl du

Dywedodd Glyn Davies: “Rwyf yn deall pryderon y rhai sy’n gwrthwynebu sawl fferm wynt yng nghanolbarth Cymru a’r lein drydan anferth arfaethedig o ogledd swydd Amwythig  i Gefn Coch.

“Rwy’n derbyn fod yn rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol roi ystyriaeth lawn i’r ddau gais. Dwi’n gobeithio y bydd yn dod i’r un casgliad a wnaeth ar Fedi 7.

“Fe fyddwn ni i gyd yn falch o weld y cwmwl du sydd uwchben Sir Drefaldwyn ers blynyddoedd yn diflannu, ond mae’n rhaid inni aros ychydig yn hirach.”

Gobaith newydd’

Mae cwmnïau ynni RWE Innogy a RES yn dweud bod dyfarniad yr Uchel Lys wedi rhoi gobaith newydd y bydd eu ceisiadau yn cael eu gwireddu.

Nid yw’r dyfarniad yn effeithio penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol i wrthod cais ynglŷn â chyswllt trydan uwchben y ddaear rhwng Llandinam i is-orsaf drydan Y Trallwng, ynghyd a ffermydd gwynt yn  Llanbadarn Fynydd a  Llaithddu.