Mae Mabon ap Gwynfor a Liz Saville Roberts, Aelod o’r Senedd ac Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, yn dweud bod “gormod o gwestiynau pwysig heb eu hateb” am ddyfodol gwasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru yn eu hetholaeth yn y gogledd.
Mae dau gyfarfod cyhoeddus wedi’u cynnal yn Nhywyn a Phwllheli i roi cyfle i bobol leol ddweud eu dweud ar gynlluniau i ganoli’r gwasanaeth, allai arwain at gau canolfannau lleol yng Nghaernarfon a’r Trallwng.
Roedd presenoldeb dda yn y cyfarfodydd gafodd eu trefnu gan y ddau wleidydd a Chyngor Tref Pwllheli, gydag ymgyrchwyr yn unedig y tu ôl i’r alwad i ddiogelu’r canolfannau lleol.
Clywodd aelodau’r gynulleidfa’n uniongyrchol gan bobol sydd wedi elwa o ofal brys gan Ambiwlans Awyr Cymru, a pham fod cynnal y safleoedd presennol yng Nghaernarfon a’r Trallwng yn hanfodol i gymunedau gwledig y canolbarth a’r gogledd-orllewin.
‘Cryn amheuaeth’
“Roedd yn galonogol gweld cymaint yn mynychu’r cyfarfodydd cyhoeddus yn Nhywyn a Phwllheli, gyda chynrychiolaeth o bob rhan o Wynedd a thu hwnt,” meddai Mabon ap Gwynfor a Liz Saville Roberts mewn datganiad ar y cyd.
“Roeddem i gyd yno fel cyfeillion yr elusen, i uno y tu ôl i achos cyffredin sy’n annwyl i’n calonnau ac yr ydym am ei weld yn cael ei ddiogelu’n lleol o fewn ein cymunedau.
“Ond mae gormod o gwestiynau pwysig heb eu hateb, ac mae cryn amheuaeth ynghylch dibynadwyedd y data a ddefnyddir fel sail i benderfyniadau a fydd â goblygiadau pellgyrhaeddol i’n cymunedau.
“Rydym wedi hir alw ar reolwyr yr Ambiwlans Awyr a Llywodraeth Cymru i brofi na fydd y newid arfaethedig yma yn peryglu argaeledd ac amseroedd ymateb yr Ambiwlans Awyr i’r cymunedau hynny sydd i bob pwrpas yn ddibynnol ar yr elusen mewn argyfyngau.
“Dyna pam ei bod yn hanfodol i ni graffu’n llawn ar y cynlluniau, a dyna pam yr ydym ni, a’n cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi galw ar y Prif Weinidog i gomisiynu dadansoddiad annibynnol o’r data sy’n sail i gynigion yr elusen, ond maent yn gwrthod eu cyhoeddi.
“Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi profi ei hun dro ar ôl tro i fod yn amhrisiadwy i’n cymunedau, yn enwedig ardaloedd pell i’w cyrraedd fel de Meirionnydd a Phen Llŷn.
“Rydym yn gefnogwyr selog i’r gwasanaeth, ac fel cyfeillion beirniadol ein nod yw gwneud yn siŵr bod y penderfyniad cywir yn cael ei wneud er budd y bobol yr ydym yn eu cynrychioli.”
‘Diolch’
“Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi mynychu y cyfarfodydd cyhoeddus yn Nhywyn, Pwllheli a Phorthmadog, yn enwedig y rhai sydd wedi rhannu eu straeon mor angerddol ynghylch pam fod lleoli’r Ambiwlans Awyr mor agos yn hanfodol,” meddai’r ddau wedyn.
“Mae yna farn unfrydol bod yn rhaid i’r gwasanaeth brys hwn gael ei ddiogelu o fewn cyrraedd amserol ein cymunedau, ac rydym ymhell o gael ein hargyhoeddi ynghylch y data, sut mae wedi’i gasglu, ei ddefnyddio a beth mae’n ei olygu mewn sefyllfa ‘byd go iawn’.
“Byddwn yn parhau i ddwyn y rhai sydd tu ôl i’r newidiadau hyn i gyfrif ac yn apelio ar bawb sy’n rhannu ein pryderon i ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ac anfon neges glir bod yn rhaid cadw’r gwasanaeth hwn yn lleol.”