Mae’r unig siop Gymraeg yn Lloegr, sy’n cael ei rhedeg gan deulu, wedi mynd yn groes i’r duedd fanwerthu, ac wedi ehangu eu gwasanaeth i siop barhaol ar y stryd fawr yng nghanol tref Croesoswallt.
Marchnad Croesoswallt oedd cartref Siop Cwlwm, y siop lyfrau ac anrhegion annibynnol, ers 2010 pan gafodd ei sefydlu gan y tîm mam a merch, Linda a Lowri Roberts.
Bellach mae’r busnes wedi symud i’w safle ei hun ar Stryd y Beili.
Mae’r siop yn gwerthu llyfrau, anrhegion a chardiau sydd naill ai’n Gymraeg eu hiaith neu’n gysylltiedig â threftadaeth Cymru a’r iaith Gymraeg.
“Rydyn ni’n teimlo mai’r iaith Gymraeg yw’r hyn sy’n clymu Croesoswallt i Gymru,” meddai Lowri Roberts.
Yn wreiddiol, dechreuodd y busnes â stondin farchnad, ac yn ddiweddarach symudodd i uned ddwbl yn neuadd farchnad Croesoswallt, ond siop barhaol oedd y nod eithaf bob tro.
“Rydyn ni’n hoffi meddwl ein bod yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi’r Gymraeg yng Nghroesoswallt â’n hamrywiaeth o lyfrau, anrhegion a chardiau Cymraeg. Ein nod yw bod yn ganolfan i siaradwyr Cymraeg yn y dref, yn ogystal â dysgwyr Cymraeg, ac unrhyw un sy’n ymddiddori mewn treftadaeth Gymreig.”
Rhaglen gymorth arbenigol
Daw’r symudiad i’r siop barhaol ar ôl i dîm Siop Cwlwm weithio â chynghorwyr busnes o Hadleigh Works, Be a Better Fish a Martin & Jones Marketing trwy raglen gymorth arbenigol un-i-un Marches Growth Hub Shropshire.
Bydd Lowri Roberts yn dathlu agoriad y siop newydd trwy gymryd rhan yn nigwyddiad Christmas Live Croesoswallt ar Ragfyr 2 o 6yh tan 10yh pan fydd y dref yn dathlu cychwyn tymor y Nadolig â digwyddiad gwych yn ystod y nos a siopa hwyr.
Bydd y busnes hefyd yn cynnal digwyddiad ar Ragfyr 3 â’r awdur o ogledd Cymru, Julia Ozanne, sydd wedi derbyn canmoliaeth ar gyfer ei nofel gyntaf, The Boat Shed.
Bu’n byw a gweithio yn ardal Croesoswallt cyn symud i ogledd Cymru.
Mae hi bellach wedi ysgrifennu dilyniant i The Boat Shed, The Rule of Twelfths, sydd hefyd wedi ei lleoli yn ardal arfordirol gogledd Cymru.
Bydd hi ar gael i lofnodi copïau o’r ddau lyfr rhwng 12yp a 4yp.
Mae gwybodaeth bellach am Siop Cwlwm ar gael ar y wefan www.siopcwlwm.co.uk neu Siop Cwlwm ar Facebook.