Wrth i un o brif ddigwyddiadau calendr cefn gwlad Cymru gael ei gynnal, ac yng nghanol achosion newydd o ffliw adar, mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, yn annog ymwelwyr â’r Ffair Aeaf i ymweld â stondin wybodaeth.
Bydd hi yn y ffair heddiw (dydd Llun, Tachwedd 28), a bydd stondin y Llywodraeth yn Neuadd De Morgannwg ar agor dros y deudydd.
Bydd gwybodaeth am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, Iechyd a Diogelwch ar y Fferm, Llygredd Amaethyddol, ffliw adar a llawer o bynciau eraill ar gael, gyda staff wrth law i ateb cwestiynau.
Bydd y Ffair Aeaf yn gyfle hefyd i drafod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gyda chynnal cyfarfod cyntaf y gweithgor sydd wedi’i sefydlu i ystyried ffermwyr ifanc a ffermwyr newydd, yn dilyn cyfarfod y gweithgor ffermwyr tenant yn gynharach y mis hwn.
‘Gweithio ar lles pawb’
“Mae’n bwysig ein bod ni’n clywed barn pawb am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a rhaid sicrhau ei fod yn gweithio er lles pawb,” meddai Lesley Griffiths.
“Dw i’n falch mai yn y Ffair y bydd y gweithgor ffermwyr ifanc a newydd yn cael ei gyfarfod cyntaf.
“Mae’n bwysig ein bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael llif cyson o dalent ac egni newydd i helpu i wneud y diwydiant yn gydnerth.
“Os ydych chi’n ymweld â’r Ffair, galwch heibio stondin Llywodraeth Cymru lle bydd staff yn barod i’ch helpu â’ch ymholiadau.
“Rydyn ni’n disgwyl ymlaen yn fawr at y Ffair Aeaf eleni a fydd unwaith eto yn llwyfan i’r gorau o fyd ffermio a bywyd cefn gwlad yng Nghymru.”
Ffliw adar – ‘angen rhyw lefel o sicrwydd’
Yn y cyfamser, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am “ryw lefel o sicrwydd” fod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael ag achosion o’r ffliw adar.
Roedd Samuel Kurtz, llefarydd materion gwledig y blaid, yn galw am orchymyn Cymru gyfan fel ateb i’r sefyllfa.
Galwodd am orchymyn yn y Senedd ddechrau’r wythnos ddiwethaf.
“Gyda’r ffordd mae ffliw adar wedi lledaenu ledled y Deyrnas Unedig rhwng adar gwyllt a dofednod masnachol, byddai gorchymyn cartrefu rhagofal yng Nghymru’n rhoi rhyw lefel o sicrwydd i fusnesau yng nghanol sefyllfa ansicr,” meddai.
“Dydy ffliw adar ddim yn parchu ffiniau, a gyda chynifer o unedau’n agos i’r ffin â Lloegr, a gyda’r potensial am ragor o fudo ymhlith adar gwyllt, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru wedi gadael dofednod Cymru’n agored i haint.”
Mae NFU Cymru wedi croesawu’r mesurau, ar ôl bod yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru’n galw am y mesurau gorfodol.
“Yn dilyn Cynhadledd Dofednod NFU Cymru ddydd Llun, Tachwedd 21, ysgrifennodd NFU Cymru at yr Ysgrifennydd Materion Gwledig yn gofyn bod Llywodraeth Cymru’n cyflwyno mesurau cartrefu gorfodol er mwyn helpu i leihau’r perygl y byddai’r feirws yn achosi rhagor o ddinistr i’n dofednod,” meddai Richard Williams, cadeirydd bwrdd dofednod NFU Cymru.
“Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar ein pryderon a’n gobaith gwirioneddol yw y bydd y mesurau cartrefu hyn, ochr yn ochr â’r gofynion bioamrywiaeth presennol ac ychwanegol rydym yn eu gweithredu yn helpu i leihau effaith ffliw adar ar y sector dofednod yng Nghymru.
“Mae’r mesurau hyn yn berthnasol i’r holl geidwaid dofednod, p’un a oes gennych chi un iâr yn yr ardd neu fusnes dofednod mawr, ac rwy’n annog pawb i barhau’n wyliadwrus.
“Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i’r sector dofednod yng Nghymru, ond mae cynhyrchwyr yn gwneud popeth allan nhw i warchod eu hadar ac i barhau i gynhyrchu cig dofednod ac wyau iach, maethlon a fforddiadwy i’n cwsmeriaid eu mwynhau.”
Y camau sy’n cael eu cymryd
Mae mesurau cadw dan do a bioddiogelwch gorfodol newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer dofednod ac adar caeth yng Nghymru, gan fod y dystiolaeth o sefyllfa’r ffliw adar yn awgrymu y bydd risg y clefyd yng Nghymru yn cynyddu dros fisoedd y gaeaf
Dywed Dr Gavin Watkins, Prif Swyddog Milfeddygol dros dro Cymru, fod y camau hyn yn cael eu cymryd nawr oherwydd y cynnydd posibl yn feirws y ffliw adar yn yr amgylchedd ac i gryfhau’r mesurau pwysig gafodd eu cyflwyno ym mis Hydref trwy Barth Atal Ffliw Adar Cymru.
Daw’r mesurau newydd i rym yng Nghymru ddydd Gwener (Rhagfyr 2).
O’r dyddiad hwnnw, bydd yn ofyn cyfreithiol ar bawb sy’n cadw adar i gadw eu hadar dan do neu wedi’u gwahanu mewn ffordd arall oddi wrth adar gwyllt.
Rhaid i bob ceidwad adolygu hefyd y mesurau bioddiogelwch ar y safle lle caiff yr adar eu cadw a gweithredu ar hynny.
Diben hyn yw cadw’r feirws rhag mynd i siediau’r adar, gan fod y feirws yn farwol i lawer o adar.
Mae’r mesurau hyn yn ychwanegol at y rheini ym Mharth Atal Ffliw Adar Cymru, sy’n parhau’n hynod bwysig.
Mae Dr Gavin Watkins yn annog ceidwaid adar i baratoi ar gyfer y mesurau newydd, trwy wneud yn siŵr bod eu siediau adar yn addas, a’u bod yn cael eu gwella i amddiffyn lles yr adar.
Mae ceidwaid yn cael eu cynghori i ofyn barn eu milfeddyg os oes angen cyngor arnyn nhw.
Er mwyn i’r mesurau cadw adar dan do fod yn effeithiol, rhaid cyflwyno mesurau bioddiogelwch llym i gadw’r feirws allan.
Y ffordd orau o wneud hynny yw cwblhau rhestr bioddiogelwch sy’n orfodol i bob ceidwad.
Mae risg y feirws i iechyd pobol yn dal yn fach iawn ac mae’r cyrff safonau bwyd wedi dweud bod risg ffliw adar i ddiogelwch bwyd siopwyr y Deyrnas Unedig yn fach iawn.
‘Lledaenu tua’r gorllewin’
“Mae’r data diweddara’n awgrymu y bydd ffliw’r adar yn lledaenu tua’r gorllewin i Gymru yn y misoedd nesaf gan gynyddu’r risg y caiff adar yn yr awyr agored eu heintio am fod y feirws yn byw’n hirach ac wrth i adar gwyllt sy’n cario’r feirws ei ledaenu ymhellach,” meddai Dr Gavin Watkins.
“Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth, rydyn ni am gymryd camau pellach i helpu i amddiffyn dofednod ac adar caeth.
“Bydd y mesurau cadw dan do a bioddiogelwch rydym yn eu cyflwyno yng Nghymru yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i’r adar ac yn cryfhau’r sector dofednod.
“Byddwn yn parhau i gadw golwg ar y sefyllfa.
“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n cadw adar am y camau y maen nhw wedi’u cymryd i ddiogelu adar yng Nghymru rhag y clefyd dinistriol hwn.
“Rydym yn gwybod bod y camau hynny wedi amddiffyn adar.
“Bydd y mesurau a gyhoeddir heddiw’n adeiladu ar y gwaith hwnnw. O’u rhoi ar waith yn drylwyr, caiff ein hadar eu diogelu.”