Mae dyn 44 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod yn Llansawel ger Castell-nedd fore Mercher.

Cafodd yr heddlu eu galw am 9.45yb i lôn ger clwb gweithwyr Llansawel, ac mae timau fforensig ar y safle yn Stryd Thomas.

Mae’r dyn sydd wedi’i arestio yn cael ei holi yn y ddalfa yn Abertawe, ac mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau.

Nid yw corff y dyn wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yn hyn.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn yr ardal ddoe neu heddiw i ffonio 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111 gan nodi’r cyfeirnod 1600005773.