Mae Heddlu’r De yn cynnal ymchwiliad ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yn ardal Castell-nedd bore ma.

Mae ffordd wedi’i chau yn Llansawel  ar ôl i’r corff gael ei ddarganfod am 9.45yb bore dydd Mercher.

Mae swyddogion fforensig bellach wedi cael eu hanfon i Stryd Thomas.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De nad oedd rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.