Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cyngor Sir Wrecsam yn hallt ar ôl i dad aros tair blynedd am wersi nofio drwy’r Gymraeg i’w blant, a hynny er gwaethaf sawl ymchwiliad i’r mater gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, gofynnodd Aled Powell i Gyngor Wrecsam am wersi nofio yn Gymraeg i’w blant yn 2019, ac mae’n dal i aros, heb sicrwydd pryd bydd gwersi nofio ar gael i blant yr ardal yn Gymraeg.
“Dw i wedi bod yn trafod efo Cyngor Wrecsam ers dros dair blynedd, dw i wedi cwyno wrth y Cyngor ac wrth Gomisiynydd y Gymraeg, a does dim byd sylfaenol wedi newid,” meddai Aled Powell, sy’n aelod o Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith.
“Beth ydw i fod i’w wneud? Mae dyletswydd ar y Cyngor i ddarparu drwy’r Gymraeg, ond yn amlwg dydyn nhw’n poeni dim am siaradwyr Cymraeg y sir.
“Y dewis dw i wedi’i gael yn y bôn ydy gwersi nofio drwy’r Saesneg neu ddim gwersi nofio o gwbl.”
Tra’i fod yn brwydro i geisio cael gwersi nofio yn Gymraeg i’w blant, mae’n ymwybodol eu bod nhw’n colli allan.
“Mae Comisiynydd y Gymraeg ar eu trydydd ymchwiliad i mewn i’r mater ar hyn o bryd, ond yn y cyfamser mae fy mhlant i’n tyfu i fyny,” meddai.
“Dw i ddim eisiau gwersi i ’mhlant ymhen blynyddoedd pan maen nhw yn yr ysgol uwchradd.
“Roedd Awen yn bedair pan ddechreuais i ofyn am wersi ac mae hi bellach yn saith, ac mae hi a’i chwaer fach yn gofyn bob wythnos pa bryd cawn nhw ddysgu nofio.”
‘Ymddwyn mewn ffordd mor ddi-hid’
Yn ôl Nia Marshal Lloyd o Gell Wrecsam Cymdeithas yr Iaith, mae’n “rhyfeddol” fod Cyngor Wrecsam yn “ymddwyn mewn ffordd mor ddi-hid”.
“Mater syml ydy hyn yn y bôn, ac mae’n amlwg mai’r prif rwystr ydy agwedd Cyngor Wrecsam tuag at y Gymraeg,” meddai.
“Galwn ar arweinydd y Cyngor, Mark Pritchard, i dderbyn cyfrifoldeb am hyn ac ymyrryd ar unwaith er mwyn sicrhau bod gwersi nofio Cymraeg ar gael i blant y sir yn y flwyddyn newydd.”