Mae Llafur Cymru’n dathlu eu canmlwyddiant fel plaid yr wythnos hon, gyda chyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd.

Bydd gwleidyddion presennol a rhai o’r gorffennol yn dod ynghyd ar gyfer y dathliadau.

Ar Dachwedd 15, bydd hi’n ganrif union ers i Lafur Cymru brofi llwyddiant etholiadol am y tro cyntaf, gyda hanner gwleidyddion Cymru dros y ganrif ddiwethaf wedi cynrychioli’r blaid.

Mae’r llwyddiant hwn wedi’i weld yn San Steffan, y Senedd ac yn Senedd Ewrop, ac mae’n golygu mai’r Blaid Lafur yw’r “blaid wleidyddol fwyaf llwyddiannus yn y byd democrataidd”, yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru.

Am y tro cyntaf erioed, mae prosiect newydd, Llafur100, yn tynnu ynghyd yr holl bolisïau, pobol a lleoedd sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y Blaid Lafur yng Nghymru dros y ganrif ddiwethaf, a hwnnw wedi’i ddatblygu ar y cyd ag archifau gwleidyddol y Llyfrgell Genedlaethol.

Yn rhan o’r archifau mae lluniau, straeon ac atgofion personol ffigurau lleol a chenedlaethol o bwys i’r mudiad ar ffurf llinell amser ddigidol.

Mae’r prosiect wedi’i gymeradwyo gan y Prif Weinidog Mark Drakeford, ac wedi’i arwain gan Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, sydd wedi cydlynu cyfres o ddigwyddiadau sydd wedi’u cynnal ar hyd y flwyddyn.

‘Llawer i’w ddathlu’

“Mae gan Lafur lawer i’w ddathlu o fod y blaid wleidyddol fwyaf llwyddiannus yng Nghymru ac yn wir yn y byd democrataidd,” meddai Mark Drakeford.

“Hyd yn oed pan gafodd y blaid adegau anodd ledled y Deyrnas Unedig, yng Nghymru fe arhosodd cefnogaeth yn gadarn yn enwedig ar lefel llywodraeth leol.

“Rhan o’r rheswm dros y llwyddiant hwnnw yw nad ydyn ni erioed wedi gorffwys ar ein rhwyfau, a dydyn ni ddim yn cymryd y cyhoedd yng Nghymru yn ganiataol.

“Mae ein gwleidyddion wedi’u gwreiddio yn ein cymunedau, ac rydym yn cynnal cysylltiadau cryf â’n hundebau llafur sy’n rhoi gwir synnwyr i ni o’r hyn mae’r cyhoedd eisiau.

“Dydy ein gwaith byth yn orffenedig, a byddwn ni’n parhau i frwydro dros gyfiawnder cymdeithasol bob cyfle, gan addasu i ofynion cymdeithas newidiol.”

Ffigurau nodedig yn hanes y blaid

Dros y ganrif ddiwethaf, mae gwleidyddion amlycaf Llafur Cymru wedi manteisio ar hunaniaeth Gymreig a’r synnwyr o gymuned yng Nghymru fel bod ganddyn nhw ddylanwad dros ddigwyddiadau ledled y Deyrnas Unedig.

Un ffigwr amlwg iawn oedd Aneurin Bevan, oedd yn ganolog i sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1948, ac yntau wedi magu profiad gyda Chymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar.

Roedd sosialaeth a solidariaeth yn rhan ganolog o’i weledigaeth, a’r gwerthoedd hynny’n greiddiol i’w waith fel gwleidyddiaeth wrth iddo eu trosglwyddo i bobol eraill drwy sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd.

Mae eraill sydd hefyd wedi cyfrannu at ddemocratiaeth yn fwy eang, gan gynnwys Leo Abse oedd wedi ymgyrchu tros ddiwygio a hybu hawliau pobol hoyw a chyflwyno cyfreithiau ysgaru mwy rhyddfrydol.

Chwaraeodd Peter Hain a Paul Murphy ran allweddol yn hanes Gogledd Iwerddon yn y blynyddoedd wedi’r Trafferthion, ac roedd Neil Kinnock yn ganolog yn y frwydr i ddiwygio’r Blaid Lafur ar ôl colli etholiad cyffredinol hollbwysig yn 1983 yng nghyfnod Margaret Thatcher wrth y llyw.

Ymhlith arweinwyr Llafur sydd wedi byw a gweithio yng Nghymru mae Keir Hardie, Ramsay McDonald, Jim Callaghan a Michael Foot.

Datganoli, Llywodraeth Lafur Cymru a’r Senedd

Yn fwy diweddar, mae datganoli, Llywodraeth Lafur Cymru a’r Senedd ymhlith prif lwyddiannau Llafur Cymru.

Yn wir, yn ôl y blaid, un o’r prif resymau dros eu llwyddiant yng Nghymru yw eu gallu i addasu i’r oes gan gadw at eu gwerthoedd gwreiddiol sydd wedi’u cynnal nhw ers canrif.

“Mae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn derm gafodd ei fathu’n ddiweddar, ond trwy gydol y 100 mlynedd diwethaf, mae hunaniaeth unigryw Llafur yng Nghymru wedi golygu ein bod ni wedi adeiladu a chynnal y cysylltiad arbennig hwnnw â’r etholwyr,” meddai Eluned Morgan.

“Dydyn ni ddim bob amser wedi ei gael e’n iawn, ond rydyn ni’n ddigon mawr ac yn ddigon cynrychioladol i adlewyrchu ar yr oes pan fod pethau wedi mynd o’i le ac wedi ceisio eu cywiro nhw.

“Dydy hi ddim bob amser yn hawdd, ond rydyn ni wedi ei wneud e mewn un etholiad ar ôl y llall.

“Rydyn ni hefyd wedi dangos, uwchlaw popeth arall, ein bod ni’n wleidyddion pragmataidd ac ymarferol fydd yn cyfaddawdu a chydweithio ag eraill pe bai’n ein helpu ni i wireddu ein huchelgeisiau gwleidyddol.”

Digwyddiadau

Bydd cerddoriaeth ac areithiau gan ffigurau gwleidydol o bwys yn rhan ganolog o’r dathliadau.

Bydd y rhain yn cael eu cynnal yn yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd.

Bydd Mark Drakeford ac Eluned Morgan yn dod ynghyd, ochr yn ochr â’r Llyfrgell Genedlaethol i gyflwyno darlith fydd yn olrhain hanes Llafur Cymru gyda Syr Deian Hopkin yn y Pierhead.

Bydd digwyddiad yn y nos gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, gan ddehongli’r rhesymau pam fod Llafur Cymru wedi bod mor llwyddiannus ar hyd y blynyddoedd.