Daeth cannoedd o bobol ynghyd ar strydoedd Caernarfon fel rhan o ddiwrnod rhyngwladol o weithredu dros yr hinsawdd ddydd Sadwrn (Tachwedd 12).
‘Angladd Addewidion’ oedd enw’r digwyddiad, a’i bwrpas oedd tynnu sylw at “addewidion gwag” Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar yr hinsawdd a’r amgylchedd.
Yn ôl y trefnwyr, Climate Cymru, Gwrthryfel Difodiant Bangor a GwyrddNi, roedd tua 200 o bobol yno, i gyd wedi gwisgo mewn du ac yn gorymdeithio’n dawel drwy’r dref i guriad drwm.
Fel rhan o weithredu rhyngwladol, cafodd yr orymdaith ei chynnal i nodi dechrau cynhadledd COP27 yn yr Aifft.
Roedd siaradwyr o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru yn rhan o’r digwyddiad, a buon nhw’n trafod effeithiau newid hinsawdd yn Affrica a de’r byd, gan bwysleisio’r angen am weithredu sydyn.
‘Dewis rhwng gwres a bwyta’
Ymysg y siaradwyr eraill roedd Anna Jane Evans, gweinidog a chynghorydd tref yng Nghaernarfon.
“Mae tymereddau byd-eang yn codi,” meddai.
“Mae biliau ynni yn codi.
“Mae elw biliwnyddion yn codi.
“Tra bod pobol yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu tai neu fwyta, mae cwmnïau ynni yn gwneud mwy o elw nag erioed.
“Er mwyn stopio’r argyfwng rydyn ni angen gweithredu gwirioneddol gan lywodraethau sy’n cwtogi allyriadau carbon, ac yn mynd i’r afael ag anghyfartaledd.”
‘Y tlotaf yn dioddef’
Roedd pwyslais yn y digwyddiad ar drafod y gweithredoedd y gall pawb eu cymryd i helpu’r argyfwng, ynghyd â rhoi pwysau ar lywodraethau.
Dywed Elijah Everett, athro iaith 26 oed o Gaernarfon, ei fod yn falch o weld cymaint o bobol yn ymgyrchu, ond bod diffyg gweithredu Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar newid hinsawdd yn “bryder mawr”.
“Y gwledydd tlotaf, sydd wedi cyfrannu leiaf tuag at gynhesu byd-eang, yw’r rhai sy’n dioddef gyda newyn, llifogydd, cnydau’n methu, tanau, a thlodi cynyddol,” meddai.
“Ond, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod gwrando ac am ddefnyddio mwy o danwydd ffosil, yn difetha natur ac yn cwtogi cyflogi.”
‘Gwyrddgalchu yn lle gweithredu’
Yn 2015, fe wnaeth arweinwyr y byd gytuno fel rhan o Gytundeb Paris i atal tymheredd y byd rhag codi mwy na 1.5 gradd.
Fodd bynnag, mae’r Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio nad ydy’r byd ar lwybr ymarferol i gyrraedd y targed hwnnw.
Dywed Morris Owen, ffarmwr 56 oed o Frynsiencyn ar Ynys Môn, ei bod hi’n “ysbrydoledig” gweld cynifer o bobol ifanc yn yr orymdaith.
“Eu dyfodol nhw sy’n cael ei ddinistrio wrth losgi mwy o danwydd ffosil,” meddai.
“Dw i yma oherwydd ein bod ni eisiau cadw at y targed o 1.5 gradd y gwnaethon ni gytuno arno yng Nghytundeb Paris.
“Mae’r llywodraeth yn gwneud gormod o wyrddgalchu, yn hytrach na gweithredu go iawn.”