Bydd athrawon Cymru’n cael codiad cyflog o 5%, wedi’i ôl-ddyddio i Fedi 1 eleni.

Wrth gadarnhau’r codiad cyflog, dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru, ei fod yn derbyn y gallai rhai pobol fod yn siomedig nad yw’r cynnydd yn uwch, ond nad yw Llywodraeth Cymru “mewn sefyllfa” i gynnig codiad cyflog uwch “gan na chafwyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig”, meddai.

Y cyflog cychwynnol newydd ar gyfer athrawon fydd £28,866 a bydd cyflogau athrawon mwy profiadol yn cynyddu £2,117 i £44,450.

Gan dderbyn argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar gyfer 2022/23, bydd codiad cyflog o 5% i bob pwynt cyflog statudol ar bob graddfa gyflog ac ar gyfer pob lwfans.

“Rwy’n derbyn y gallai rhai pobol fod yn siomedig na ellir darparu cynnydd uwch ac yn cydnabod hawl gyfreithiol pob gweithiwr i geisio codiad cyflog teg a gweddus yn ystod y cyfnod heriol hwn o chwyddiant a chynnydd mewn costau byw,” meddai Jeremy Miles.

“Fodd bynnag, gan na chafwyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, nid ydym mewn sefyllfa i fynd i’r afael ymhellach â’r materion hyn y tu hwnt i’r hyn sydd eisoes wedi ei ystyried.

“Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru werth £4bn yn llai dros dair blynedd y setliad cyfredol – £1.5bn yn is y flwyddyn nesaf.

“Mae hyn cyn ystyried y toriadau pellach i gyllidebau y bu cymaint o sôn amdanynt ac y disgwylir i Lywodraeth y Deyrnas Unedig eu cyflwyno cyn hir.

“O fewn y cyd-destun hwn, yn syml ni ellir fforddio cynnig cynnydd uwch mewn cyflogau, a byddai’n anghyfrifol gwneud hynny.

“Rydym yn galw eto ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud y peth iawn o’r diwedd ac i weithredu ar unwaith i adfer cyllideb Cymru fel y gallwn gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus.”