Tafwyl, Caerdydd
Daeth cadarnhad bod un o wyliau Cymraeg mwyaf Cymru wedi sicrhau cyllid digonol i gynnal ei digwyddiad eto eleni yn y brif ddinas.
Llywodraeth Cymru yw prif gyllidwr Tafwyl, gyda Chyngor Caerdydd hefyd yn rhoi cyfraniad gwerth dros £100,000.
“Mae hyn yn newyddion gwych i’r celfyddydau, diwylliant ac yn bwysicaf oll yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd,” meddai Sian Lewis, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, sy’n trefnu’r ŵyl.
“Gallwn gryfhau’r partneriaethau creadigol presennol gyda sefydliadau ac unigolion gan hefyd ddatblygu rhai newydd yng Nghaerdydd a thu hwnt.”
35,500 yn yr ŵyl llynedd
Mynychodd dros 35,500 o bobl Tafwyl yn 2015, oedd yn naw diwrnod o hyd am y tro cyntaf ers ei sefydlu yn 2006.
Yn 2012, symudodd o’i hen safle yn nhafarn y Mochyn Du i safle Castell Caerdydd gan ddenu 22,000 o bobl i Ffair Tafwyl ar y dydd Sadwrn a 12,000 ar y dydd Sul.
Yn ogystal â sesiynau celf, cerddoriaeth a chomedi, bydd ardal arbennig yn cael ei neilltuo yn yr ŵyl am y tro cyntaf eleni i bobol ifanc yn eu harddegau.
Bydd y trefnwyr hefyd yn gweithio gyda phrosiect Arts & Business Cymru, Culture Step, i gynnal gweithdai celf mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf dros hanner tymor y Sulgwyn.
“Mae Tafwyl yn hynod o bwysig ac yn ddigwyddiad cynhwysol sy’n amlygu diwylliant Cymraeg y ddinas i drigolion ac ymwelwyr, ac yn dathlu dwyieithrwydd Caerdydd. Mae’r ŵyl bellach yn rhan graidd o galendr digwyddiadau’r ddinas,” meddai arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale.
Mae disgwyl i Menter Caerdydd gyhoeddi ei lein yp cerddorol ym mis Mawrth a bydd manylion yr ŵyl ar gael ei gwefan ac ar Twitter a Facebook.
Bydd Gwyl Ffrinj Tafwyl yn cael ei gynnal rhwng Mehefin 25 – Gorffennaf 3, 2016.