Rhodri Glyn Thomas
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd gweithgor yn paratoi adroddiad ar ran Llywodraeth Cymru i edrych sut gellir hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn awdurdodau lleol y wlad.
Yr Aelod Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas, sydd wedi’i benodi i arwain ar y gwaith a bydd canfyddiadau ac argymhellion y grŵp yn cael eu cyflwyno i’r Llywodraeth ar ddiwedd mis Mai, wedi etholiadau’r Cynulliad.
“Mae gan Lywodraeth Leol rôl hanfodol i’w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, a sefydlodd y gweithgor.
Bydd y grŵp yn ymchwilio arferion gorau o ran defnyddio’r Gymraeg yng ngweinyddiaeth llywodraeth leol a rôl yr awdurdodau lleol i ddatblygu’r economi a chefnogi’r iaith Gymraeg.
Yn ogystal, bydd creu adfywiad economaidd drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn cael sylw yn yr adroddiad.
“Nawr yw’r cyfle i gyflwyno diwylliant newydd”
“Mewn llawer o ardaloedd, yn enwedig yn y Gorllewin, yr awdurdod lleol yw’r cyflogwr mwyaf ac yn sicr y sefydliad y mae’r cyhoedd yn gwneud y mwyaf ag e,” meddai Rhodri Glyn Thomas wrth golwg360.
“Felly, byddai sefydlu’r Gymraeg fel iaith gwaith naturiol, iaith weinyddol, fewnol yr awdurdodau hynny yn gwneud byd o wahaniaeth i’r iaith a’r defnydd o’r iaith.
“Y brif her yw’r diwylliant sy’n bodoli yno ar hyn o bryd, lle mae’r Gymraeg yn iaith i gyfieithu a’r Saesneg yw’r iaith sy’n cael ei defnyddio o ddydd i ddydd.
Bydd y cynnig i ad-drefnu cynghorau sir ddim yn cael ei ystyried yn yr adroddiad ond mae Rhodri Glyn Thomas yn dweud y gallai’r ad-drefnu gael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg.
“Yn amlwg, fe gall unrhyw newid gael effaith. Er enghraifft, petai Gwynedd a Môn yn cyfuno, fe fyddai hynny’n golygu gobeithio y byddai Ynys Môn yn etifeddu’r un patrwm ieithyddol sy’n bodoli yng Ngwynedd ar hyn o bryd.”
Ac o ran y De-orllewin, gallai ail-strwythuro fod yn “gyfle” meddai, i sicrhau “strwythurau llawer iawn cadarnach o ran defnydd y Gymraeg.”
“Nawr yw’r cyfle i gyflwyno diwylliant newydd o ran defnydd y Gymraeg.”