Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân y Gogledd yn cynnal ymchwiliad ar y cyd wedi’i dân difrifol greu difrod ar safle cynllun chwarae cymunedol yn Wrecsam.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 3:30 y bore ‘ma i ardal chwarae ym Mharc Caia.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod dau griw wedi bod ar y safle a bod y tân bellach wedi’i ddiffodd.
Yn ôl y llefarydd hefyd, mae difrod sylweddol i’r offer chwarae ac i’r swyddfa ar y safle.
Mae’r heddlu yn apelio am unrhyw dystion.
Cyfres o dannau bwriadol
Dyma’r achos diweddaraf o dân ym Mharc Caia, gyda chyfres ohonyn nhw’n cael eu cynnau’n fwriadol.
Cafodd y Gwasanaeth Tân eu galw hefyd i ardal Pentre Gwyn, Parc Caia am tua 6 neithiwr yn dilyn adroddiadau bod car ar dân.
Nam technegol oedd achos y tân ac ni chafodd unrhyw un ei anafu.