Mae cyfarfod cyhoeddus a gafodd ei gynnal ddydd Sadwrn (Hydref 29) yn Llandrindod wedi datgelu sefyllfa “drasig” o ran mynediad gwael i ddeintyddiaeth yn y dref a’r ardaloedd cyfagos.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal gan Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ac Aelod Senedd yr ardal, ochr yn ochr â’r Cynghorwyr Jake Berriman o Landrindod, Pete Roberts. a David Chadwick, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed.

Yn ystod y cyfarfod, fe wnaeth nifer o drigolion gwyno eu bod nhw’n methu â chael mynediad at ddeintydd drwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, er eu bod nhw wedi byw yn y dref ers blynyddoedd.

Roedd rhai preswylwyr wedi cael eu gadael mewn poen am fisoedd gyda chyflyrau fel crawniadau, tra bu’n rhaid i eraill aros nes bod eu cyflwr wedi gwaethygu cymaint nes bod angen triniaeth mewn uned damweiniau ac achosion brys.

Mae deintyddiaeth yn cael ei rhedeg gan y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yng Nghymru, ac mae ymchwil flaenorol gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn dangos bod dros 20% o ddeintyddion ym Mhowys ar fin ymddeol.

Dros yr haf, caeodd dwy ddeintyddfa yn y Drenewydd, gan adael dim ond dwy arall i wasanaethu tref fwyaf Powys sydd â phoblogaeth o fwy na 12,000.

Brwydro dros ddeintyddion i bawb

“Roedd yn wirioneddol adeiladol cyfarfod â thrigolion Llandrindod y penwythnos hwn, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi penderfynu y bydd mynediad at ddeintyddiaeth yn un o’m tair prif flaenoriaeth yn ystod tymor y Senedd,” meddai Jane Dodds.

“Roedd yr hyn a glywsom gan breswylwyr yn drasig iawn, mae cymaint o bobol wedi cael eu gadael yn aros mewn poen oherwydd na allant fynd i mewn i bractis deintyddol i gael sylw i faterion.

“Mewn llawer o achosion, mae hyn er gwaethaf aros am flynyddoedd i fynd ar lyfrau deintydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Tra bod Llafur wedi dweud wrtha’ i dro ar ôl tro yn y Senedd bod y sefyllfa’n gwella, mae’r hyn ddigwyddodd yn y Drenewydd dros yr haf a’r sefyllfa glywais i yn Llandrindod heddiw yn dweud wrthym nad dyna sy’n cael ei deimlo ar lawr gwlad.

“Rwyf eisoes wedi bod yn defnyddio fy llais i alw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn well pan ddaw’n fater o ofal deintyddol.

“Un cam y gallent ei gymryd ar hyn o bryd a fyddai’n gwella’r sefyllfa’n sylweddol yw hyfforddi mwy o nyrsys deintyddol a hylenyddion yn ogystal ag ehangu cwmpas y gwaith y caniateir iddynt ei wneud.

“Byddai hyn yn cael effaith ar unwaith o ran helpu i leihau rhestrau aros hir.

“Ni allwn barhau i gael system ddwy haen o ddeintyddiaeth yng Nghymru lle mae’r rhai sy’n gallu fforddio mynd yn breifat yn cael triniaeth ond y rhai sydd methu yn cael eu gadael mewn poen yn aros.

“I Lafur, mae plaid sy’n brandio ei hun ar gyfiawnder cymdeithasol i ganiatáu i hyn barhau yn warthus.

“Byddaf yn parhau i ddefnyddio fy rôl i frwydro dros ddeintyddion i bawb.”