Mae angen newid systemig os yw Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol am liniaru tlodi, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl adroddiad newydd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, does yna’r un awdurdod lleol yng Nghymru yn gwybod beth yw maint llawn eu gwariant ar leddfu a mynd i’r afael â thlodi.

Mae’r ymchwil yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid refeniw sylweddol ar gael i awdurdodau, ond oherwydd cymhlethdodau a natur y materion, dydy cyfanswm lefel y gwariant ddim yn hysbys.

Noda’r Archwilydd Cyffredinol fod natur tymor byr rhaglenni grant, gweinyddiaeth rhy gymhleth, gwendidau mewn canllawiau a chyfyngiadau grant, a thrafferthion gwario arian yn golygu nad yw’r arian yn cael yr effaith y gallai.

Er hynny, maen nhw hefyd yn dweud bod llawer o’r ysgogiadau y gellid eu defnyddio i liniaru tlodi y tu allan i reolaeth Cymru.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru fabwysiadu Strategaeth Tlodi Plant yn 2011, a chafodd ei ddiwygio yn 2015, ond mae wedi dyddio, meddai’r Archwilydd Cyffredinol, a chafodd y targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020 ei atal.

Gwelwyd bod cynghorau a phartneriaid yn blaenoriaethu gwaith ar dlodi, ond fod y cymysgedd o ddulliau a thirwedd bartneriaeth gymhleth yn golygu bod uchelgeisiau, ffocws, gweithredoedd, a blaenoriaethu yn amrywio’n fawr.

‘Gweithio gyda’i gilydd’

Dywed Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol, ei fod yn cydnabod “graddfa’r her o dan sylw mae tlodi yn ei chyflwyno”.

“Mae’n hanfodol felly bod Llywodraeth Cymru a chynghorau yn gwneud y mwyaf o’u hymdrechion ac yn mynd i’r afael â’r gwendidau a nodwyd yn fy adolygiad i,” meddai.

“Mae angen i ni sicrhau bod pob haen o’r llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i helpu pobol mewn angen ac mae fy argymhellion wedi’u targedu at ategu gwelliant.”