Marvin James
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am wybodaeth i ddod o hyd i ddyn, 30 oed, sydd ar goll o ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Gwelwyd Marvin James ddiwethaf ar Heol Tennyson, Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Mawrth, Rhagfyr 29 am tua 11.30yh.

Mae’r heddlu ar ddeall ei fod wedi gadael Heol Tennyson mewn fan Ford Transit arian, gyda rhif cofrestru EN08 EAA a’i fod yn teithio i Aberogwr.

Mae Marvin James yn 5 troedfedd 8 modfedd, gyda gwallt brown golau, a barf fer ar yr adeg pan aeth ar goll.

Mae’r Heddlu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am ei leoliad i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod *479532, neu drwy ffonio Taclo’r Taclau ar 555 111.