Mae dyn, 50 oed, wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad 10 mlynedd yn ôl yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Fe gafodd Jason Patrick Humble ei arestio ar Ragfyr 31, 2015 yn ardal y Drenewydd gan Heddlu Dyfed Powys.

Mae’r cyhuddiadau yn ymwneud ag achos a ddigwyddodd ar Ragfyr 2, 2006 ym Mro Ogwr lle dioddefodd dyn anafiadau difrifol i’w ben a’i wyneb.

Ymddangosodd Jason Patrick Humble gerbron Llys Ynadon Pontypridd ar Ionawr 2, wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio ac o fod ag arf yn ei feddiant. Mae wedi’i gadw yn y ddalfa.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr achos gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod *035372, neu’n ddienw drwy Taclo’r Taclau, 0800 555 111.