Rhian Lewis
Mae dynes o Gaerdydd, a oedd bron yn gwbl ddall, wedi son am ei phrofiad o allu gweld eto ar ôl cael “llygad feionig” newydd.
Cafodd Rhian Lewis, 49 oed, y mewnblaniad yn ei llygad fel rhan o arbrawf yn Ysbyty John Radcliffe yn Rhydychen.
Fe wnaeth llawfeddygon o Ysbyty’r Llygad yn Rhydychen roi sglodyn electronig bychan yng nghefn retina ei llygad dde er mwyn ceisio ei helpu i weld eto.
Mae’r fam i ddau wedi dioddef o gyflwr retinitis pigmentosa ers oedd yn bump oed, ac mae hyn yn achosi i gelloedd yn y retina sy’n gweld golau, ddirywio’n raddol a allai wneud rhywun yn hollol ddall yn y pen draw.
Roedd Rhian Lewis yn hollol ddall yn ei llygad dde a doedd braidd dim golwg yn ei llygad chwith.
Mae un ymhob 3,000 i 4,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig yn dioddef o’r afiechyd, ond does dim iachâd iddo eto.
Cafodd y mewnblaniad ei wneud gan gwmni o’r Almaen, a chafodd ei osod yn llygad Rhian Lewis ym mis Mehefin.
1,500 o synwyryddion golau
Mae’r mewnblaniad wedi’i wneud o tua 1,500 o synwyryddion golau sy’n anfon signalau electronig i gelloedd nerfol ac mae wedi’i gysylltu â chyfrifiadur bychan sy’n eistedd o dan y croen y tu ôl i’r glust.
Mae hwn yn cael ei bweru gan goil magnetig ar y croen, ac o’r tu allan mae’n edrych fel cymorth clyw.
Pan gaiff y ddyfais ei danio am y tro cyntaf, mae cleifion yn gweld fflachiadau o olau, ond dros gwpl o wythnosau, mae’r ymennydd yn dysgu i droi’r fflachiadau hynny yn siapiau a gwrthrychau.
“Teimlo’n ddagreuol”
“Dywedon nhw fod posibilrwydd na fyddaf yn cael unrhyw deimlad ac yna’n sydyn o fewn eiliadau roedd rhyw fath o fflachio yn fy llygad sydd heb weld dim ers dros 16 mlynedd,” meddai Rhian Lewis.
“Ac ro’n i’n teimlo mor gyffrous, roeddwn i’n eithaf dagreuol.”
Gall Rhian Lewis reoli’r mewnblaniad drwy ddefnyddio’r deialau ar gyflenwad pŵer bach yn ei llaw. Mae hyn yn ei helpu i newid sensitifrwydd, cyferbyniad ac amledd ei llygad.
Hi yw’r claf cyntaf y tu allan i’r Almaen i gael y mewnblaniad diweddaraf a bydd ei stori i’w gweld ar raglen Trust Me, I’m a Doctor nos Fercher, 6 Ionawr am 8yh ar BBC2.