Mae saith o fusnesau o Gymru sydd ag arbenigedd sy’n amrywio o faes peirianneg a gofal cleifion i chwaraeon yn teithio i’r Unol Daleithiau yr wythnos hon fel rhan o daith fasnach dan arweiniad Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynrychiolwyr yn mynd i Ogledd Carolina a De Carolina, lle byddan nhw’n cwrdd â busnesau, a chwsmeriaid a phartneriaid newydd posibl.

Mae’n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau Cymru i dyfu yng Nghymru a gwerthu i’r byd, fel rhan o’u Cynllun Gweithredu ar gyfer Allforio.

Dyma’r tro cyntaf y bydd cynrychiolwyr, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, yn ymweld â’r Carolinas sydd â phoblogaeth gyfunol o 15m.

Yr Unol Daleithiau yw prif farchnad allforio Cymru ar gyfer nwyddau, gan gyfrif am 15.7% (£2.9bn) o gyfanswm allforion nwyddau.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, cynyddodd gwerth allforion nwyddau Cymru i’r Unol Daleithiau gan 69.6% (£1.2bn).

Cwpan y Byd

Mae’r De yn ranbarth sy’n tyfu’n gyflym yn yr Unol Daleithiau, gyda chyfleoedd economaidd amrywiol.

Yn sgil y cryfder o ran diwydiannau, costau cystadleuol wrth wneud busnes, ac amgylchedd sydd o blaid busnes, mae’r rhanbarth yn cynnig mynedfa i fusnesau Cymru sydd â diddordeb mewn allforio i’r Unol Daleithiau.

Mae’r daith yn rhan o gyfres o weithgareddau sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cyn Cwpan y Byd FIFA yn Qatar, lle bydd gêm gyntaf Cymru yn erbyn yr Unol Daleithiau.

I fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn, mae’r cynrychiolwyr o fusnesau’n cael eu cefnogi gan Swyddfa Llywodraeth Cymru yn Atlanta, Georgia ochr yn ochr â phartneriaid lleol.

Bydd y cynrychiolwyr yn cynnwys Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a fydd yn mynd ati i gwrdd â phartneriaid ym maes addysg hyfforddi ar gyfer eu pecynnau dysgu ar-lein.

Byddan nhw’n cynnal cyfarfod briffio dros frecwast ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a fydd yn cynnwys anerchiad rhithiol gan Rob Page, rheolwr Cymru.

Bydd digwyddiadau busnes i gysylltu â rhwydweithiau lleol yn cael eu cynnal yn Greenville, De Carolina a Charlotte, Gogledd Carolina.

Cyfle i fethrin cysylltiadau rhyngwladol

Dywed Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru fod “yr Unol Daleithiau’n farchnad bwysig i Gymru”.

“Rwy’n falch y gall Llywodraeth Cymru gefnogi’r cynrychiolwyr hyn o dalent busnes Cymru ar ein hymweliad masnach gyntaf erioed â’r Carolinas,” meddai.

“Mae hwn yn gyfle gwych i’n busnesau archwilio’r farchnad a meithrin cysylltiadau gyda phartneriaid rhyngwladol.

“Fel rhan o hyn, rwy’n awyddus ein bod yn manteisio ar gyfleoedd yn ystod y cyfnod cyn Cwpan y Byd FIFA, sydd â’r potensial i godi proffil Cymru mewn marchnadoedd allweddol, fel yr Unol Daleithiau.

“Mae’r daith, sy’n ran o raglen ehangach o deithiau masnach a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, yn dangos ein penderfyniad i gefnogi busnesau Cymru i dyfu yng Nghymru, a gwerthu i’r byd.

“Mae’n sail i’n huchelgais clir i dyfu allforion Cymru wrth i ni gyflawni ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Allforio.”

‘Rhoi Cymru ar lwyfan y byd’

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o Daith Fasnach yr Unol Daleithiau Llywodraeth Cymru i Ogledd Carolina a De Carolina,” meddai Nick Davidson, Pennaeth Datblygu Busnes Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae rhoi Cymru ar lwyfan y byd yn ystod blwyddyn Cwpan y Byd yn amcan cyffredin, ac mae’n gyfle gwych i fyd busnes a chwaraeon greu partneriaethau pwerus.

“Mae gennym enw da yn fyd-eang o ran hyfforddi ac rydym wedi datblygu system addysg o’r radd flaenaf ar gyfer hyfforddwyr, gan ddechrau gyda’r Dystysgrif Cyflwyniad i Hyfforddi Pêl-droed hyd at Drwydded Broffesiynol UEFA.

“Mae ein cyn-fyfyrwyr byd-eang yn cynnwys Mikel Arteta, Yaya Touré, Thierry Henry a Tim Cahill ac rydym yn gobeithio y bydd y daith hon yn ein galluogi i dyfu pêl-droed ar lawr gwlad ledled y byd.”