Mae nifer o bobol yn galw ar gyn-Aelod o’r Senedd i gamu i lawr o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol oherwydd ei sylwadau trawsffobig yn 2021.
Cafodd Helen Mary Jones o Blaid Cymru ei phenodi’n aelod o Bwyllgor Cymru ar y Comisiwn yn gynharach y mis hwn.
Ers 2018, mae wedi’i chyhuddo dro ar ôl tro o drawsffobia.
Fis Mawrth 2021, ymddiswyddodd Owen Hurcum o’r blaid fel ymgeisydd ar gyfer etholiad Senedd 2021.
Dywedodd Owen, sy’n anneuaidd ac yn bedwerydd ymgeisydd y Blaid ar restr ranbarthol Gogledd Cymru, nad oedd modd “sefyll yn dda ymwybodol fel ymgeisydd i’r Blaid tra eu bod yn parhau i lwyfannu ymgeisydd sydd wedi dyrchafu, ac yn parhau i hyrwyddo, trawsffobia.”
Honnodd hefyd fod sylwadau Helen Mary Jones ac “ymateb di-fflach gan arweinyddiaeth y blaid” wedi arwain at “lawer o aelodau’r blaid [yn gadael] yn ystod y misoedd diwethaf”.
Fe wnaeth hi ymddiheuro i’r gymuned draws “am y boen a’r niwed” wnaeth hi ei achosi yn sgil ei sylwadau trawsffobig, ond mae Owen Hurcum ymysg y rhai sy’n teimlo nad oedd hyn yn ddigon ac y dylai gamu i lawr o’r Comisiwn.
‘Condemnio ei phenodiad yn gryf’
“Ers cyhoeddi ei phenodiad ddoe mae nifer o bobol wedi gofyn imi a oedd gennyf unrhyw ddatganiad i’w wneud ynghylch y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn penodi Helen Mary Jones i’w Bwyllgor Cymreig,” meddai Owen Hurcum.
“Rwy’n cymryd mai’r rheswm pam y gofynnwyd i mi yw oherwydd i mi adael Plaid Cymru ac ymddiswyddo fel ymgeisydd y Senedd oherwydd ei thrawsffobia a chefnogaeth y blaid i’w hymgeisyddiaeth ei hun y llynedd.
“Y trawsffobia hwn y mae hi wedi’i arddel yn y gorffennol sydd wedi achosi i lawer gondemnio’r penodiad hwn i’r EHRC.
“Dylwn grybwyll bod Helen Mary Jones wedi ymddiheuro am ei sylwadau trawsffobig a’i chefnogaeth i grwpiau trawsffobig.
“Rwyf hefyd yn credu’n gryf yng ngallu pobol i newid a dad-ddysgu safbwyntiau sarhaus.
“Fodd bynnag, o ystyried bod yr ymddiheuriad hwn wedi’i ddileu yn fuan ar ôl cael ei bostio (ynghyd â’i chyfrif Twitter gwreiddiol a oedd yn dilyn llawer o grwpiau trawsffobig|), ac nad wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth ei bod yn cefnogi pobol draws yn frwd – mae p’un a yw hi wir wedi newid ei chredoau ai peidio yn anfesuradwy ar hyn o bryd.
“At hynny, rhaid inni beidio ag anywbyddu’r gefnogaeth a gafodd ei phenodiad gan grwpiau gwrth-draws ac mae’n amlwg eu bod yn dal i’w gweld fel cefnogwr eu byd-olwg mawr.
“Ni ddylid gwneud apwyntiad i’r EHRC i unrhyw un sydd â marc cwestiwn uwch eu pen o ran eu barn ar hawliau dynol grŵp lleiafrifol.
“Nid yw Helen Mary Jones wedi profi ei bod wedi diarddel trawsffobia mewn gwirionedd ac felly rwy’n condemnio ei phenodiad yn gryf.”