Mae gwirfoddolwyr o Gymru sydd wedi teithio i Bacistan er mwyn helpu gydag effeithiau’r llifogydd yno wedi disgrifio’r sefyllfa fel un “ddychrynllyd”.
Gyda thraean o’r wlad dan ddŵr, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi addo £10m ychwanegol mewn cymorth i Bacistan.
Mae ardal fwy na’r Deyrnas Unedig dan lifogydd, a thros 1,000 o bobol wedi’u lladd a 33m o bobol wedi cael eu heffeithio.
Erbyn hyn, mae Llywodraeth San Steffan wedi addo cyfanswm o £26.5m tuag at yr achos.
Treuliodd George Inayat, nyrs o Gasnewydd, ugain diwrnod yn Karachi yn helpu ffrindiau a theulu sydd wedi colli’u cartrefi.
“O weld y dinistr â fy llygaid fy hun, roedd e’n ofnadwy iawn, iawn,” meddai.
“Mae pobol wedi colli popeth. Roedd e’n ddiwrnod emosiynol iawn i fi.
“Mae popeth wedi cael ei ddinistrio neu ei olchi ymaith gan y llifogydd ofnadwy.
“Gallai nifer y meirw fod yn sylweddol uwch na’r hyn sy’n cael ei adrodd gan fod cymaint o gymunedau yn byw mor anghysbell a dydy’r difrod heb gael ei asesu’n llawn eto.
“Mae yna lai o bwyslais ar allu nofio ym Mhacistan, felly mae nifer o bobol wedi boddi. Mae tai eraill wedi disgyn, a does ganddyn nhw ddim lle diogel i aros na mynediad at ddŵr yfed na bwyd.”
Yn ôl yr amcangyfrifon, mae dwy filiwn o dai wedi cael eu difrodi neu wedi disgyn, ac mae 546,000 o bobol yn byw mewn gwersylloedd dros dro.
“Y peth mwyaf torcalonnus welsom ni oedd marwolaethau plant – plant diniwed oedd gan eu bywydau i gyd o’u blaenau. Roedd e’n dorcalonnus iawn clywed y straeon trasig hyn.
“Mae pobol ym Mhacistan yn ansicr am eu dyfodol. Sut fyddan nhw’n ailadeiladu eu tai a sut maen nhw’n rhoi bwyd ar y bwrdd?
“Mae cnydau wedi cael eu difrodi, anifeiliaid wedi boddi.
“Dw i ddim yn gwybod sut y byddan nhw’n adfer eu bywydau.”
‘Torcalonnus’
Mae Abubakar Syed, fu’n astudio Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn byw yn Lahore yn nhalaith Punjab ym Mhacistan.
“Punjab yw un o’r ardaloedd sydd wedi’i heffeithio waethaf,” meddai.
“Mae’r golygfeydd a’r difrod yn dorcalonnus.
“Roedd rhaid i fenywod orchuddio eu hunain yn y dŵr am oriau gan nad oedd ganddyn nhw ddillad.
“Mae hi wedi bod yn gwbl dorcalonnus gweld y lefel hwn o ddioddefaint.”
‘Canlyniad newid hinsawdd’
Yn ôl Daud Irfan, gweithiwr elusennol gyda Chanolfan y Drindod yng Nghaerdydd, dydy hi ddim yn edrych fel pe bai’r glaw yn mynd i stopio’n fuan.
Mae Canolfan y Drindod wedi bod yn helpu i gefnogi arweinwyr Cristnogol lleol ym Mhacistan i anfon faniau gyda chymorth dyngarol i’r ardaloedd sydd wedi cael eu taro waethaf.
“Dydy’r trychineb ym Mhacistan heb ddod i ben – ac mae’r glaw yn parhau,” meddai Daud Irfan.
“Dw i wedi siarad â gweinidog o Gujranwala ym Mhacistan er mwyn trafod be’ maen nhw’n ei wneud i helpu pobol yno.
“Maen nhw wedi bod yn casglu bwyd, dillad, arian, meddyginiaeth a’r prif bethau mae pobol angen i oroesi’r effaith, gan gynnwys pebyll i aros ynddyn nhw.
“Mae’r bobol rydyn ni wedi bod yn eu helpu’n trio symud teuluoedd i dir uwch a darparu meddyginiaeth.”
Wrth drafod y cymorth ariannol, dywed Daud Irfan mai “newid hinsawdd sy’n gyfrifol am achosi’r trychineb, felly dychmygwch mai eich teulu chi sydd angen cymorth ar ôl rhywbeth mor ddinistriol â hyn”.
“Y brif flaenoriaeth nawr yw cynnig cymorth i’r rhai sydd wedi colli’u cartrefi, ond wrth symud ymlaen mae’n rhaid i’r gymuned ryngwladol wneud mwy i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’r rhai sy’n cael eu heffeithio waethaf ganddo.”
Cymorth ariannol
Dywed yr Arglwydd Ahmad, gweinidog yn Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu San Steffan dros Dde Asia, fod y Deyrnas Unedig yn “parhau i helpu pobol Pacistan i adfer wedi’i llifogydd”.
“Bydd ein cymorth yn helpu i fynd i’r afael ag afiechydon sy’n cael eu lledaenu drwy’r dŵr a gwella mynediad at ddŵr glân, gofal meddygol a llety dros y wlad.
“Rydyn ni’n gweithio ddydd a nos gyda Phacistan ac ein partneriaid rhyngwladol i sicrhau bod cymorth y Deyrnas Unedig yn cyrraedd yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio waethaf.
“Ynghyd â helpu gydag anghenion brys, mae’r Deyrnas Unedig yn cefnogi adferiad economaidd Pacistan a’u gwytnwch yn erbyn trychinebau amgylcheddol yn y dyfodol.
“Bydd Rhaglen Masnachu Gwledydd Datblygedig newydd y Deyrnas Unedig yn helpu masnach drwy roi mynediad di-doll i 94% o’r nwyddau sy’n cael eu hallforio o Bacistan i’r Deyrnas Unedig.”