Mae Dyfodol i’r Iaith wedi penodi arbenigwr cynllunio iaith yn brif weithredwr newydd.

Cafodd Dylan Bryn Roberts, sydd â gyrfa hir o hyrwyddo’r Gymraeg gyda gwahanol sefydliadau cenedlaethol a lleol, ei benodi i ddilyn Ruth Richards.

Mae wedi bod yn hyrwyddo’r Gymraeg ers 30 mlynedd, gyda chyfnod yn y Bwrdd Iaith yn gweithredu Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, cyn sefydlu cwmni cynllunio ieithyddol a chymunedol.

Ar ôl mwy na deng mlynedd gyda’r cwmni, bu’n arwain Menter Iaith Bangor am bum mlynedd cyn dychwelyd i weithio yn gymunedol yn y trydydd sector.

Mae wedi cynnal nifer helaeth o arolygon cenedlaethol, hyfforddiant ac asesiadau effaith ieithyddol ym meysydd addysg a thai.

Mae’r Gymraeg a’i dyfodol fel iaith gymunedol yn agos iawn at ei galon.

‘Cyfnod cyffrous a heriol’

“Rwy’n hynod falch o gael cyfle i ymgymryd a’r swydd gyffrous hon yn Dyfodol ac i gael cyfrannu trwy lobio er lles y Gymraeg,” meddai Dylan Bryn Roberts.

“Mae’n gyfnod cyffrous a heriol ond rwy’n edrych ymlaen yn arw at gydweithio gydag unigolion, cymunedau a sefydliadau i sicrhau fod y Gymraeg yn iaith fyw, ganolog a bywiog yng Nghymru.”

Yn ôl Heini Gruffudd, mae’r mudiad yn “hynod o ffodus” o gael ei benodi i’r swydd, ac mae’n “olynydd teilwng i Ruth Richards”.

“Mae Dylan yn arbenigwr ym maes cynllunio iaith, a bydd ganddo rôl allweddol mewn hyrwyddo egwyddorion cynllunio iaith yng Nghymru,” meddai.

Yn enedigol o Nefyn, ym Mhen Llŷn, cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Nefyn ac Ysgol Botwnnog.

Graddiodd mewn Hanes Cymru a Pholisi Cymdeithasol o Brifysgol Bangor.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, dychwelodd i’w hen Goleg i ddilyn cwrs gradd Meistr mewn Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith.

O ran diddordebau, mae’n mwynhau teithio a’r awyr agored a champerfanio.

Mae’n ymddiddori’n mewn materion cyfoes a gwleidyddol.

Rhwng cerdded Gelert, y ci defaid Cymreig gwyllt, mae’n hoffi beicio ffyrdd cefn ochrau Caernarfon a Dinas Dinlle.

Mae’n byw yng Nghaernarfon gyda Carys a’r mab Llywelyn sydd ar fin ail-adael y nyth am diroedd pell.