Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y darlledwr a chyflwynydd Hywel Gwynfryn, sy’n dod o Langefni, Ynys Môn, sydd Ar Blât yr wythnos hon.

Dw i’n dod yn ôl o hyd i dŷ Nain, dyna dw i’n gofio fwya’. Oeddan ni’n cael bwyd maethlon fel lobsgóws – darnau o gig eidion, tatws, moron, ac ella’ ychydig o rwdins hefyd. Peth arall oeddan ni’n gael yn tŷ Nain oedd stwnsh rwdan – tatws a rwdan wedi’u malu efo’i gilydd. Ac weithiau oedd hi’n gneud cig moch efo fo. Mi fyddai’r stwnsh rwdan ar y plât efo’r bacwn ar yr ochr, ac mi fyddan ni’n gwneud y stwnsh yn fynydd fel Vesuvius efo twll yn ei dop o, a gosod y bacwn o gwmpas y mynydd ma, ac wedyn fyddai Nain yn gafael yn y badall ffrio ac yn ara’ deg bach yn tywallt y saim i mewn i’r cafn ar y top a hwnnw’n gorlifo o’r top fel afalans o saim. Ac ar ôl mynd i’r drafferth o greu’r mynydd ma mi fysan ni wedyn yn cymysgu’r cwbl lot a’i fwyta fo.

Mi oedd y bacwn bob amser wedi’i goginio’n dda a, hyd heddiw, alla’i ddim bwyta cig moch sydd heb ei goginio’n dda. Mae ‘na le bach neis yng Nghaerdydd sy’n gwneud crempogau Americanaidd a bacwn hefyd – mae’n fendigedig – a dw i bob amser yn gofyn: “Can I have the bacon well done, please?” Mae’n mynd efo’r ordor.

Mi oedd Nain hefyd yn gwneud pwdin reis oedd yn dew ac yn hufennog, a’r enwog pwdin bara a’r ymylon wedi crimpio, jest rhyw gyffyrddiad bach du. Oeddan ni’n bwyta hwnna gynta’ ac wedyn y pwdin ei hun. Oeddan ni ddim yn bwyta amrywiaeth o fwyd ond, ew, oeddan ni’n bwyta’n dda.

Mi wnes i sgwennu am fy Mam unwaith a chyfeirio ati fel y gogyddes waelaf yng Nghymru os nad yn Ewrop. Mi oedd hi’n gwybod bod tatws yn barod pan oeddan nhw ‘di mynd yn bast llwyd ar waelod y sosban. Ond y peth rhyfedd ydy, er fy mod i wedi cael fy magu yn Llangefni, dw i’n cofio cael cyri pan o’n i’n blentyn. Roedd fy Nhad yn gweithio ar y môr efo llongau’r Llynges adeg y Rhyfel ac roedd ei griw yn aml iawn yn bobl o Tsieina ac yn bwyta cyri. Felly dw i’n cofio cael wyau wedi’u cyrio – doeddan ni ddim yn cael saws cyri go iawn ond oedd o’n rhyw bowdr oeddach chi’n gallu ei gael o’r siop – oedd o’n wyrdd os dw i’n cofio’n iawn. Ac mi fyddai Mam yn ei gymysgu efo dŵr ac oeddan ni’n cael y cyri efo ychydig o reis a’r darnau o wyau. Roedd hynna’n digwydd bob nos Iau.

Mi oeddan ni hefyd yn cael sbageti – dw i ddim yn gwbod pam achos dw i’n son am ddechrau’r 1950au. Dw i’n cofio Mam yn gwneud y sbageti mewn bowlen Pyrex hir a gwneud saws efo tun o domatos. Mor syml â hynny ond oedd o’n oce. Oeddan ni’n cael o’n oer nos Fawrth a nos Fercher ac fel oedd yr wythnos yn mynd yn ei flaen oedd y blas yn gwella.  Mi alla’i weld Mam rŵan yn mynd rownd ochr y bowlen Pyrex i ryddhau’r chync o sbageti, fel rhyw flocyn yn ganol y plât a dim byd arall efo fo.

Dw i’n cofio enw’r ledi oedd yn coginio yn yr ysgol – Mrs Gibson. Bob bore, tua 11, oeddan ni’n mynd i’r iard i chwarae a fysa hi’n dod rownd y gornel fel y Queen of Sheba yn cario hen ddysgl fawr oedd yn llawn o ddarnau o gaws. Ac oeddan ni’n gweld hi’n dŵad ac yn mynd ati fel defaid. A’r syniad, yn syml, oedd bysa ni, fel plant bach, jest a marw eisiau bwyd erbyn canol bore a’r caws yn cadw ni fynd nes ein bod ni’n cael cinio ysgol. Ac mi oedd hwnnw yn neis. Dyna le wnes i glywed am Bwdin Peips, sef pwdin llaeth efo macaroni.

Mi fyddai Anja fy ngwraig yn gwneud stwnsh efo sleisys o gig oen ac ro’n i wrth fy modd. Dw i’n credu mai rhan o’r cysur oedd ei fod yn mynd a fi nôl i fy mhlentyndod. Mi fyddwn i’n cael rhyw byliau ar ôl priodi o ddweud: “Reit, mae’n hen bryd i mi ddysgu sut i goginio” ac Anja’n deud: “Wel, Good Housekeeping ydy’r lle i ddechrau.” Dw i’n cofio gwneud pate efo brandi (efo lot mwy o frandi nag oedd yn y rysáit) ond doedd o ddim yn dda iawn. Mi oedd genna’i ddiddordeb mewn bwyta ond dim coginio.

Yn y 1970au mi oeddwn i’n cyflwyno Bilidowcar [rhaglen gylchgrawn i blant] a bob haf oeddan ni’n mynd i grwydro’r byd – Affrica, De America, Awstralia, bob man. A’r trip gorau erioed oedd i Fiji ac Awstralia. Mi oeddan ni yn Fiji am ryw dair wythnos ac roedd o fel bod mewn hysbyseb Bounty.  Dw i’n cofio mynd allan un diwrnod efo pysgotwyr ac ar y ffordd nôl dyma nhw’n dod ar draws crwban y môr wedi marw, homar o beth, a’i gario yn ôl – a dyna oedd swper y noson honno. Be ddaru nhw oedd tynnu’r gragen i ffwrdd, tynnu’r cig gwyn i gyd oedd o dan y gragen a gosod hwnnw mewn darnau yn ofalus ar wely o ddail banana. Wedyn dros hwnna i gyd dyma nhw’n tywallt bob math o ffrwythau a mwydo’r cig yn y dail banana. Ddaru nhw blygu’r dail o gongl i gongl mewn parsel enfawr a tra roedd y merched yn gneud hyn roedd y dynion wedi gwneud twll yn y ddaear a chreu lovo, sef popty, efo cerrig poeth ac wedyn roedd y pecyn yn mynd ar ben y cerrig. Roedd y cig yn coginio am ryw awr a hanner ac wedyn dyma nhw’n tynnu’r parsel o na ac agor y dail banana a dyna le oedd y cig tyner ‘ma efo’r ffrwythau ynddo fo a phawb yn ymestyn i mewn iddo fo.

Be sy’n mynd a fi nôl i fy ieuenctid yn Llangefni ydy fish a chips a phys slwtsh. Oeddan ni’n mynd i’r sinema ac wedyn i siop chips Winnie Welsh. Oeddan ni bob amser yn synnu a rhyfeddu at wallt ei gŵr hi. Roedd gynno fo wallt trwchus, du ac roedd o’n edrych fel Clarke Gable. Oeddan ni’n meddwl bod o’n defnyddio’r saim i gadw ei wallt yn fflat ond Brylcreem oedd o ma’n siŵr.

Roedd Dolig yn amser mor hapus hefyd. Dw i’n cofio cael partis Dolig yn y capel a Siôn Corn yn siarad yn ofnadwy o debyg i Dad [oedd yn dod o Gydweli] a fi methu dallt pam!