Mae Prif Weinidog Cymru yn derbyn bod annibyniaeth yn bosibl “pe bai pobol Cymru eisiau hynny”, er ei fod yn mynnu bod aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig yn “bolisi yswiriant gwych”.
Daw ei sylwadau yn ystod cynhadledd i drafod y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon a’r meysydd lle mae’r ddwy wlad yn cydweithio.
Ddoe (dydd Iau, Hydref 13), dywedodd Mark Drakeford wrth orsaf radio RTÉ yn Iwerddon nad yw e “byth” eisiau annibyniaeth i Gymru.
Mae’r Fforwm Iwerddon-Cymru yn gyfle i gynnal nifer o gyfarfodydd yn Nulyn a Cork, flwyddyn ar ôl i ddirprwyaeth o Iwerddon deithio i Gymru am y digwyddiad cyntaf o’i fath.
Mae chwe phrif faes yn rhan o’r fforwm, sy’n trafod materion sy’n gyffredin i Gymru ac Iwerddon, sef newid hinsawdd, tai, ynni, addysg, ac iaith a diwylliant.
Bwriad y fforwm yw cynnal cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon ar ôl Brexit, ac mae’n cael ei drefnu ar y cyd rhwng y ddwy wlad.
Wrth siarad yn Nulyn, dywedodd wrth yr Irish Times nad oedd ei achos ei hun dros y Deyrnas Unedig “yn un sentimental”.
“Dw i’n Gymro’n gyntaf ac yn Brydeiniwr nesaf,” meddai.
“Dydw i erioed wedi datgan na allai Cymru fod yn annibynnol pe bai pobol Cymru eisiau hynny.
“Dw i ddim yn credu y byddai Cymru annibynnol mor dlawd â hynny.
“Ond rwy’n awyddus i bwysleisio’r hyn sy’n bositif am y trefniadau presennol sydd gennym o ran datganoli cryf.
“Mae gallu cyfuno ein hadnoddau a rhannu’r gwobrau ledled y Deyrnas Unedig yn bolisi yswiriant gwych.”
Ychwanegodd fod Cymru eisiau “datganoli grymus” ond “nid oes arnom angen byddin na llynges nac awyrlu Cymreig”.
“Dydyn ni ddim yn credu bod angen sedd ar Gymru yn y Cenhedloedd Unedig,” meddai.
Penderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud Cymru’n dlotach
Fodd bynnag, mae Mark Drakeford o’r farn fod penderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud Cymru’n dlotach.
Bydd y wlad £1.1bn (€1.3bn) yn dlotach eleni oherwydd nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cynnig arian yn lle’r swm y gallai fod wedi’i ddisgwyl trwy gronfeydd datblygu gwledig yr Undeb Ewropeaidd, meddai.
Dywedodd hefyd ei fod yn “gresynu’n fawr” nad yw Cymru bellach yn rhan o gyfres o raglenni sy’n cael eu gweithredu gan yr Undeb Ewropeaidd gan gynnwys Erasmus+, sy’n caniatáu cyfnewid myfyrwyr ar draws Ewrop, a rhaglen cydweithredu gwyddoniaeth Horizon.
“Roedd gan bobol ymrwymiad emosiynol cryf i’r gwaith gafodd ei wneud dros 20 mlynedd o fuddsoddiad drwy’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.
“Cafodd hynny ei gipio i ffwrdd mewn ffordd sy’n gwneud dim synnwyr iddyn nhw o gwbl.
“Roedd dewisiadau y gellid fod wedi’u gwneud i sicrhau fod y berthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit fod wedi’i chynllunio yn y fath fodd fel nad oeddem ar ein colled ar gymaint o bethau.
“Ein tristwch mawr yw bod cymaint o’r cyfleoedd hynny wedi’u gwastraffu.”
Traffig ym mhorthladdoedd Cymru i lawr 30%
Aeth Mark Drakeford yn ei flaen i drafod porthladdoedd Cymru, gan ddatgelu bod y traffig drwy Gaergybi ac Abergwaun wedi gostwng 30% ers Brexit.
Mae’n debyg nad yw cwmnïau’n gweld y fantais o anfon nwyddau drwy’r Deyrnas Unedig ers gadael yr Undeb Ewropeaidd gan ei bod hi’n haws ac yn rhatach eu hanfod yn syth i’r cyfandir.
Enghraifft o hyn yw’r ffaith fod Stena Line bellach yn rhedeg gwasanaeth rhwng Dulyn a Cherbourg, yng ngogledd-orllewin Ffrainc, tra bod Brittany Ferries yn rhedeg croesfan wythnosol rhwng Cherbourg a Rosslare.
“Yn draddodiadol, mae cludwyr Gwyddelig a Ffrangeg wedi dibynnu ar y Deyrnas Unedig wrth gludo nwyddau i gyfandir Ewrop ac oddi yno,” meddai Brittany Ferries wrth egluro’r penderfyniad.
“Fodd bynnag, ers dechrau’r flwyddyn, mae mwy o gwmnïau wedi chwilio am ddewis arall yn lle’r fiwrocratiaeth ychwanegol, ffurflenni newydd, mwy o gostau ac oedi posibl sy’n deillio o gario nwyddau drwy’r Deyrnas Unedig.”
“Mae’n cael effaith sylweddol iawn ac rydym yn edrych ar ffyrdd y gellir lliniaru’r rhwystrau newydd i fasnachu fel bod iddo fod mor effeithiol ag yr oedd o’r blaen,” meddai Mark Drakeford.