Mae ymgyrchwyr iaith wedi codi pryderon y gallai Comisiynydd newydd y Gymraeg “drio troi’r cloc yn ôl” ar bwrpas y swydd.

Daw hyn yn dilyn gwrandawiad Pwyllgor Diwylliant y Senedd ddoe (dydd Iau, Hydref 13).

Awgrymodd Efa Gruffudd Jones, yr ymgeisydd sydd wedi’i ffafrio i lenwi’r swydd, yr hoffai weld y Comisiynydd yn gwneud llai o waith ar osod Safonau ar gyrff, a gwneud mwy o waith hyrwyddo “meddal”.

“Yn 2017, fe gyhoeddodd y Llywodraeth gynlluniau i wanhau’r Comisiynydd a’r Safonau gan gyflwyno mwy o hyrwyddo meddal yn lle hynny, er nad oedd neb wedi galw am hynny,” meddai Aled Powell, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith.

“Yn dilyn gwrthwynebiad eang, mi gafodd y cynlluniau i newid y ddeddfwriaeth eu gollwng oherwydd diffyg cefnogaeth.

“Bum mlynedd yn ddiweddarach, y peth diwethaf sydd ei angen ydy trio troi’r cloc yn ôl i’r hen ddadl yma a gwastraffu amser ac egni pawb efo rhagor o din-droi.

“Gwaith Comisiynydd y Gymraeg ydy gosod Safonau ar gyrff a sicrhau bod pobl Cymru yn cael gwasanaethau Cymraeg yn eu bywydau bob dydd a hynny heb iddynt fod dan anfantais gorfod treulio eu hamser eu hunain yn ymdrechu i gael cyrff i gydymffurfio â’r gyfraith.

“Corff bach ydy’r Comisiynydd ond mi all ei ddylanwad fod yn fawr trwy ganolbwyntio ei adnoddau ar hynny a gwneud ei waith yn effeithiol.

“Ar hyn o bryd mae cyrff yn torri’r Safonau’n gyson, ac mae yna lawer o gyrff a chwmnïau pwysig heb Safonau eto.

“Mae unrhyw un sy’n trio byw eu bywydau drwy’r Gymraeg yn gwybod yn iawn faint o ffordd sydd ganddon ni i fynd o ran hynny, a dyna ddylai fod yn ganolbwynt i waith y Comisiynydd, fel y deddfwyd dim yn hir yn ôl.”