Mae Dyfodol i’r Iaith wedi canmol datganiad y Llywodraeth fod £11m i’w wario ar gynlluniau economaidd o dan gynllun Arfor.

Yn ôl Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “mae’r arian yma’n arwydd bod y Llywodraeth am fod o ddifri i ddatrys anawsterau economaidd ardaloedd Cymraeg”.

“Gyda chynllunio da, gall £11m rhwng pedair sir dros dair blynedd wneud peth gwahaniaeth, a’n gobaith ni yw y bydd hyn yn cael ei gysylltu â chynlluniau pellgyrhaeddol fydd yn sicrhau ffyniant ardaloedd Cymraeg,” meddai.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld pwyslais ar bobol ifanc.

“Rydyn ni am i’r Llywodraeth ystyried rhoi rôl benodol i Gyrfa Cymru i fonitro ac arwain rhai o dan tua 14 ymlaen i swyddi, gan dargedu pobol ifanc i swyddi yn eu hardaloedd.

“Gall y swyddi hyn gynnwys rhai mewn awdurdodau lleol, meddygon, athrawon, plismyn ac yn y blaen.

“Byddai rhoi rôl benodol o’r fath i Gyrfa Cymru hefyd yn fodd o dargedu rhai fyddai am ddychwelyd i ardaloedd gorllewin a gogledd Cymru, a denu siaradwyr Cymraeg i’r mannau yna.

“Gall hyn fynd law-yn-llaw ag ymdrechion i Gymreigio gweinyddiaeth y siroedd hyn.

“Bydd yn dda gweld cynlluniau’r Llywodraeth ar greu asiantaethau i ddatblygu Arfor a’r Cymoedd yn dod i rym, fel bod datblygiad economaidd sylweddol yn digwydd.”