Mae hi’n “anodd coelio” bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu gosod cap dros dro ar elw cynhyrchwyr trydan carbon isel, medd ymgyrchwyr hinsawdd.
Yn ôl Jacob Rees-Mogg, Ysgrifennydd Busnes ac Ynni San Steffan, nid “treth ffawdelw” sydd dan sylw yma.
Fodd bynnag, mae’r diwydiant ynni wedi ei alw’n “dreth ffawdelw de-facto” ar gynhyrchwyr ynni adnewyddadwy.
Dydy gwerth y cap ar elw heb gael ei gyhoeddi eto, ond yn ôl Sam Ward, Rheolwr Climate Cymru, mae’r cynlluniau’n “rhwystredig iawn”, nid yn unig o safbwynt amgylcheddol, ond gan eu bod nhw’n gosod treth ar brosiectau ynni cymunedol.
“Mae hi braidd yn anodd coelio o ystyried pam ein bod ni yn y sefyllfa hon. Ar y funud, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud popeth fedra nhw i gynyddu eu cefnogaeth tuag at gwmnïau olew a nwy,” meddai wrth golwg360.
“Mae yna elw mawr yn cael ei wneud ar ynni adnewyddadwy. Mae hi’n eithriadol o rad ei gynhyrchu ar y funud, mae hi naw gwaith yn rhatach cynhyrchu trydan drwy ffynonellau adnewyddadwy na thrwy nwy, felly mae hi’n iawn gosod rhywfaint o dreth ffawdelw ar yr elw.
“Ond mae gwneud hynny heb wneud yr un peth ar gyfer y farchnad nwydd ryngwladol sydd â phrosiectau carbon uchel, dwys yn hurt.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig newydd wneud un rownd drwyddedu, ac maen nhw’n disgwyl dros gant o drwyddedau newydd ym Môr y Gogledd. Mae’r wyddoniaeth yn eglur, rydyn ni angen symud oddi wrth hyn.
“Be’ sy’n fwy rhwystredig ydy’r cyfiawnhad drosto, maen nhw i gyd yn anghywir.
“Dydy’r nwy a’r olew sy’n cael ei dynnu o Fôr y Gogledd ddim yn berchen i’r cyhoedd na’r Deyrnas Unedig, mae’n perthyn i’r cwmnïau ac yn cael ei werthu ar y farchnad nwydd ryngwladol ac mae’r cwmnïau hynny’n fusnesau nwy ac olew mawr, rhyngwladol gyda stakes mawr gan lywodraethau tramor.
“Mae llywodraethau eraill sydd â stakes mawr – fel Norwy, Iran a Tsiena – yn cael mwy o’r olew a’r nwy sy’n cael ei echdynnu ym Môr y Gogledd na Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”
Diogelwch ynni
Dydy’r cynllun yn gwneud dim i helpu diogelwch ynni’r Deyrnas Unedig chwaith, yn ôl Sam Ward.
“Y rheswm pam bod gennym ni brisiau mor uchel nawr yw oherwydd ein bod ni’n dibynnu ar olew a nwy,” meddai.
“Gallwn ni ailstrwythuro’r ffordd mae’r system ynni’n gweithio yn y Deyrnas Unedig, ond mewn gwirionedd yr unig ffordd o’i ddatrys i’w mynd at ynni sydd llawer rhatach, gwyrddach a glanach sydd am greu diogelwch ynni.
“Os ydych chi’n adeiladu melin wynt yn y Deyrnas Unedig, mae’r trydan yn mynd i’r Deyrnas Unedig ac mae’n helpu gyda diogelwch.
“I’r hinsawdd, mae’n strategaeth ddinistriol. Mae hi mor amlwg beth yw’r dyfodol.”
Pryder am ynni cymunedol
Dydy hi ddim yn ymddangos bod Llywodraeth San Steffan wedi trafod y cynllun gyda Llywodraeth Cymru chwaith, meddai Sam Ward, gan ychwanegu bod ganddo bryderon am drethu ynni cymunedol.
“Mae ynni cymunedol yn ddatrysiad cadarnhaol iawn, sy’n helpu pobol Cymru,” meddai.
“Mae’r elw’n mynd yn ôl i’r gymuned yn hytrach na mynd i gwmnïau rhyngwladol a llywodraethau tramor.
“Maen nhw’n defnyddio’r elw i warchod eu cymunedau rhag y costau cynyddol ac yna’n buddsoddi i greu cymunedau cryfach.
“Nawr, mae cwmnïau olew a nwy yn cael get-awê fwy neu lai, ac rydyn ni’n trethu’r unig fecanwaith sydd gan gymunedau i gadw’r elw yn eu cymunedau.
“Mae’n ymddangos bod hyn wedi cael ei gyflwyno dros Gymru a Lloegr, heb lawer o ymgynghori.
“Dydy hyn ddim i weld yn cyd-fynd â chynlluniau Llywodraeth Cymru, ac felly mae’n edrych fel ei fod yn cael ei osod ar Gymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gan fynd yn groes i ethos, polisi a phopeth mae Llywodraeth Cymru’n trio’i wneud, yn bennaf, fyswn i’n ei ddweud.”